Maes B 2009

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Maes B 2009

Postiogan maes b » Iau 09 Gor 2009 7:21 pm

Y Stilletoes wedi'i ychwangeu i line up nos wener.

Tocynnau bellach ar werth ar gyfer y gigs yn y llefydd canlynol:

Awen Meirion, Bala
Siop y Siswrn, Wyddgrug
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Sul 12 Gor 2009 3:14 pm

Unryw reswm pam fod tocyn wythnos di mynd llawer drytach leni? Oni di meddwl 'bod o'n gyfanswm cost pob noson unigol, ond na, ma'n £100 wan yn ôl y son...?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan maes b » Iau 16 Gor 2009 2:23 pm

CYNNIG ARBENNIG MAES B

Wyt ti’n meddwl dod draw i Faes B i weld Bryn Fôn a’r Band ym Maes B ar 1 Awst - noson gynta’r ‘Steddfod? Mae’r lein-yp ar gyfer y noson yn wych – Bryn, Daniel Lloyd, Elin Fflur, Brigyn ac Yr Annioddefol. Noson fawr – a noson i’w chofio.

Beth am aros draw ar ôl y gig? Os wyt ti’n prynu tocyn i’r gig gei di aros yn y Maes Ieuenctid yn rhad ac am ddim nos Sadwrn – a fydd dim rhaid gadael tan hanner dydd, ddydd Sul, felly dim brys yn y bore!

Does dim byd yn digwydd ym Maes B nos Sul, ond cofia ddod nôl yn nes ymlaen yn yr wythnos am berfformiadau ffantastic gan rai o fandiau gorau Cymru. Mae tocyn wythnos ar gael – hwn yn cynnwys mynediad i’r gigs, gwersylla a mynediad i faes yr Eisteddfod. Dos i wefan yr Eisteddfod – eisteddfod.org.uk – am ragor o wybodaeth, neu ffonia’r swyddfa docynnau ar 0845 122 1176.

Tocynnau unigol ar gael ar y we, yn y swyddfa docynnau, Awen Meirion, Siop y Siswrn a Palas Print – felly dim esgus dros beidio dod draw i Maes B ddechrau mis Awst!
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 16 Gor 2009 2:52 pm

so be, 'da chi'n cicio pawb allan am hannar dydd dy' sul? be ma' nhw i fod i neud o hynny tan 'ych gig nos lun chi, ta? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan maes b » Iau 16 Gor 2009 3:14 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:so be, 'da chi'n cicio pawb allan am hannar dydd dy' sul? be ma' nhw i fod i neud o hynny tan 'ych gig nos lun chi, ta? :rolio:


yn amlwg bydd pawb sydd wedi prynu tocyn wythnos yn gallu aros ar y maes ieunctid.
Ma'r cynnig uchod ar gyfer pobl sydd isho dod draw i'r nos sadwrn agoriadol ac isho rhywle i aros am y noson. Gan bod line up mawr efo ni ar gyfer y noson cyntaf da ni'n rhaglwed bod tipyn am ddod draw i'r gig ond ella ddim isho gorfod dreifio adre ar ol y gig.
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan maes b » Iau 16 Gor 2009 3:22 pm

Artistiaid bellach wedi'i cadarnhau ar gyfer Brwydr y Bandiau Maes B 2009

Dyma nhw:

Nos Lun:
Crwydro / Y Ffwnc / Un Dyn Lawr / Lacwna / Steffan Huw

Nos Fawrth:
Candelas / Dynion Pren / Ffan Alffresco / Tudalen 99 / After an Alibi
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Iau 16 Gor 2009 4:14 pm

maes b a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:so be, 'da chi'n cicio pawb allan am hannar dydd dy' sul? be ma' nhw i fod i neud o hynny tan 'ych gig nos lun chi, ta? :rolio:


yn amlwg bydd pawb sydd wedi prynu tocyn wythnos yn gallu aros ar y maes ieunctid.
Ma'r cynnig uchod ar gyfer pobl sydd isho dod draw i'r nos sadwrn agoriadol ac isho rhywle i aros am y noson. Gan bod line up mawr efo ni ar gyfer y noson cyntaf da ni'n rhaglwed bod tipyn am ddod draw i'r gig ond ella ddim isho gorfod dreifio adre ar ol y gig.


A hefyd, pam y codiad mewn pris tocyn wsnos leni? Oni arddeall mai £75 'di pris wsos..ond wan ma'n edrach fel £100 fydd 'i, a hynny gyda un noson yn llai...maes b yn connio ieuenctid Cymru ie? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan maes b » Iau 16 Gor 2009 4:26 pm

Gwehil Maes Gwyddno a ddywedodd:
maes b a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:so be, 'da chi'n cicio pawb allan am hannar dydd dy' sul? be ma' nhw i fod i neud o hynny tan 'ych gig nos lun chi, ta? :rolio:


yn amlwg bydd pawb sydd wedi prynu tocyn wythnos yn gallu aros ar y maes ieunctid.
Ma'r cynnig uchod ar gyfer pobl sydd isho dod draw i'r nos sadwrn agoriadol ac isho rhywle i aros am y noson. Gan bod line up mawr efo ni ar gyfer y noson cyntaf da ni'n rhaglwed bod tipyn am ddod draw i'r gig ond ella ddim isho gorfod dreifio adre ar ol y gig.


A hefyd, pam y codiad mewn pris tocyn wsnos leni? Oni arddeall mai £75 'di pris wsos..ond wan ma'n edrach fel £100 fydd 'i, a hynny gyda un noson yn llai...maes b yn connio ieuenctid Cymru ie? :rolio:


Yn anffodus ma'r Eisteddfod, fel sawl mudiad arall, yn dioddef effeithiau'r wasgfa ariannol presennol. Un canlyniad o hyn yw bod y gost o gynnal digwyddiad fel Maes B wedi codi tipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn talu am hyn bu rhaid codi pris tocyn wythnos eleni.

Er hyn ma tocyn wythnos maes b - sy'n cynnwys mynediad i'r gigs, gwersylla a mynediad i faes yr eisteddfod - dal £15 yn rhatach na penwythnos yn Wakestock. Cofia hefyd bod pris y tocyn yn gostwng wrth i'r wythnos fynd yn ei flaen.
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan Jakous » Llun 20 Gor 2009 7:57 pm

maes b a ddywedodd:Er hyn ma tocyn wythnos maes b - sy'n cynnwys mynediad i'r gigs, gwersylla a mynediad i faes yr eisteddfod - dal £15 yn rhatach na penwythnos yn Wakestock. Cofia hefyd bod pris y tocyn yn gostwng wrth i'r wythnos fynd yn ei flaen.


So what?! Ma Michael Chopra £75m yn rhatach na Cristiano Ronaldo. Whatchya getting at?!

Sa lot gwell gen unrhyw un fynd i Wakestock am weekend am £15 yn fwy, na mynd i Maes B am wthnos a safio fifteen fucking quid!
"If senses fail, then thoughts prevail."
Rhithffurf defnyddiwr
Jakous
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Maw 20 Medi 2005 9:26 pm
Lleoliad: Y Byd

Re: Maes B 2009

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Llun 20 Gor 2009 8:25 pm

Jakous a ddywedodd:
maes b a ddywedodd:Er hyn ma tocyn wythnos maes b - sy'n cynnwys mynediad i'r gigs, gwersylla a mynediad i faes yr eisteddfod - dal £15 yn rhatach na penwythnos yn Wakestock. Cofia hefyd bod pris y tocyn yn gostwng wrth i'r wythnos fynd yn ei flaen.


So what?! Ma Michael Chopra £75m yn rhatach na Cristiano Ronaldo. Whatchya getting at?!


Yn union..sut ddiawl ma posib cymharu maesb ('uchafbwynt' honedig cerddoriaeth Gymraeg) a Wakestock efo Moby, Dizzee Rascal, NERD..sgin im mynadd na diddordab rhestru mwy..nadio'n eitha amlwg i'r sdeddfod bod y ddau'n hollol wahanol?

maes b a ddywedodd:Yn anffodus ma'r Eisteddfod, fel sawl mudiad arall, yn dioddef effeithiau'r wasgfa ariannol presennol. Un canlyniad o hyn yw bod y gost o gynnal digwyddiad fel Maes B wedi codi tipyn dros y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn talu am hyn bu rhaid codi pris tocyn wythnos eleni.


Dwi'm yn cofio ryw lawar o wasgfa ariannol dros y blynyddoedd diwethaf de..eniwe ma leinyp cymdeithas yn cachu ar maesb unwaith eto leni - ac yn llwyddo i gadw'n bris rhesymol, yr un nifer o nosweithia, a mwy o oria o gerddoriaeth - dwi'n gwbo lle fydd 'yn arian i yn mynd de!
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron