Maes B 2009

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Maes B 2009

Postiogan maes b » Gwe 17 Ebr 2009 9:06 pm

Maes B 2009 - y manylion

Nos Sadwrn 01/08
BRYN FON A'R BAND
DAN LLOYD & MR PINC
ELIN FFLUR
BRIGYN
YR ANNIODDEFOL

Nos Lun 03/08
PLANT DUW
BRWYDR Y BANDIAU MAES B
CRWYDRO
Y FFWNC
UN DYN LAWR
LACWNA
STEFFAN HUW

Nos Fawrth 04/08
Y DIWYGIAD
BRWYDR Y BANDIAU MAES B
CANDELAS
DYNION PREN
FFAN ALFFRESCO
TUDALEN 99
AFTER AN ALIBI

Nos Fercher 05/08
DAFYDD IWAN A'R BAND
GWIBDAITH HEN FRAN
FFLUR DAFYDD A'R BARF
AL LEWIS
DJ DAF DU

Nos Iau 06/08
SIBRYDION
YR ODS
EITHA TAL FFRANCO
YUCATAN
Y PROMATICS

Nos Wener 07/08
RACE HORSES
CATE LE BON
MR HUW
Y STILLETOES
Y BANDANA
DJ HUW STEPHENS

Nos Sadwrn 08/08
DERWYDDON DR GONZO
COWBOIS RHOS BOTWNNOG
JEN JENIRO
CREISION HUD
NOS SADWRN BACH
ENILLWYR BRWYDR Y BANDIAU MAES B
ENILLWYR BRWYDR Y BANDIAU C2 / MENTRAU IAITH CYMRU
DJ MAGI DODD
Golygwyd diwethaf gan maes b ar Iau 16 Gor 2009 3:19 pm, golygwyd 3 o weithiau i gyd.
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan osian » Sad 18 Ebr 2009 11:50 am

:ing: pam bod plant duw yn chwara nos fawrth ETO?
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Maes B 2009

Postiogan dimdiolch » Maw 21 Ebr 2009 9:11 pm

Ma' 'na lot o fandie sydd ddim yna a fi rili moyn i nhw chware!
Ashokan, Wyrligigs, Messner, Stilletoes, Gola Ola, Gentle Good, Zimmermans, Mattoidz a yr un fi'n rili surprised gyda yw MC Mabon!
Fi 'di clywed mae dim ond un llwyfan sydd hefyd so gall hwnna fod yn rhwystr i gal mwy o fandie wrth gwrs, ond fi'n gweld bod dim gig ar y nos sul cynta' fel blwyddyn dwetha.
www.myspace.com/breichiauhir
www.twitter.com/breichiauhir
Rhithffurf defnyddiwr
dimdiolch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 53
Ymunwyd: Llun 14 Ion 2008 11:44 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: Maes B 2009

Postiogan dimdiolch » Maw 21 Ebr 2009 9:12 pm

osian a ddywedodd::ing: pam bod plant duw yn chwara nos fawrth ETO?

Gwir! Fi'n credu dele Jen Jeniro swappo lle gyda Plant Duw.
www.myspace.com/breichiauhir
www.twitter.com/breichiauhir
Rhithffurf defnyddiwr
dimdiolch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 53
Ymunwyd: Llun 14 Ion 2008 11:44 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: Maes B 2009

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Sul 26 Ebr 2009 9:35 pm

dimdiolch a ddywedodd:
osian a ddywedodd::ing: pam bod plant duw yn chwara nos fawrth ETO?

Gwir! Fi'n credu dele Jen Jeniro swappo lle gyda Plant Duw.


Eiliaf! Mr Huw yn rhyddhau albwm wych - dyrchafiad i Nos Wener -> Plant Duw yn rhyddhau albwm wych - aros ar nos Fawrth. :x Dio'm yn gneud sens i mi de - jysd mwy na thebyg bod isho cadw headliners da am bob noson o'r wythnos ella? Sori os dwin malu awyren yn llwyr. Beth am ddechra deiseb i gal Plant Duw yn headlinio nos Wenar? Ma nw ganwaith gwell na Race Horses! 8) Ciw Dadl! :ffeit:

dimdiolch a ddywedodd:fi'n gweld bod dim gig ar y nos sul cynta' fel blwyddyn dwetha.


Dwin meddwl bod hynna achos bod ffyc ol di troi fynu i nos Sul llynedd - pawb yn ByB CyI (mwy neu lai).

Delwedd

Oni wir yn teimlo biti dros Yucatan a Pwsi Meri Mew - dau fand hollol mindblowing - a dim ond y Technegydd Sain yn cadw cwmni yddyn nhw!
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan sion blewyn coch » Iau 07 Mai 2009 4:20 pm

Dwi'n cytuno, trist iawn bod Plant Duw di cal y short straw ac yn chwara efo ByB ar nos Fawrth ETO flwyddyn yma! :(

dimdiolch a ddywedodd:Ma' 'na lot o fandie sydd ddim yna a fi rili moyn i nhw chware!
Ashokan, Wyrligigs, Messner, Stilletoes, Gola Ola, Gentle Good, Zimmermans, Mattoidz a yr un fi'n rili surprised gyda yw MC Mabon!
Fi 'di clywed mae dim ond un llwyfan sydd hefyd so gall hwnna fod yn rhwystr i gal mwy o fandie wrth gwrs, ond fi'n gweld bod dim gig ar y nos sul cynta' fel blwyddyn dwetha.

:ofn:
di Ashokan heb gigio ers ooooes (di nw dal efo'u gilydd hyd yn oed?!) Messner, diom yn gigio gymaint a huna mwy fyd. Stilletoes? :ofn: Dwi'm yn siwr os di Gola Ola dal efo'u gilydd mwyach chwaith, di nw hab gigio ers ioncs chwaith. Gentle Good, cytunaf, ond ella bo gin om digon o sdwff Cymraeg i neud set gyfa. Cytunaf 'fyd am Mc Mabon, sa hunan cwl.

Oni wir yn teimlo biti dros Yucatan a Pwsi Meri Mew - dau fand hollol mindblowing


Yucatan. Mindblowing? waw. ar ba blaned ti'n byw?! :lol: hihi!
Rhithffurf defnyddiwr
sion blewyn coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Mer 25 Mai 2005 11:36 am
Lleoliad: Arfon

Re: Maes B 2009

Postiogan yucatan » Iau 07 Mai 2009 10:15 pm

ma album plant duw yn dda dydi.ond denwm yn chware gigs lawer.felly alle fo nhw heb greu gymaint a hynu o ddilyniant.
neud sence dydi.mr huw wrthi dipyn a ma 2 albym on wych yn fy marn i.

Yucatan. Mindblowing? waw. ar ba blaned ti'n byw?! :lol: hihi!

cytuno yn llwyr sion.yucatan yn gachu llwyr.boi arall ne,paid a camol nhw eto ne ma sion a fin dod rownd i roi chwip din i ti.
Rhithffurf defnyddiwr
yucatan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Llun 16 Hyd 2006 1:58 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan maes b » Gwe 08 Mai 2009 8:48 am

osian a ddywedodd::ing: pam bod plant duw yn chwara nos fawrth ETO?


dwi'n cytuno - byse'n gret cal Plant Duw i chware diwedd yr wythnos. Yn anffodus ma Conor ar ei rotations i fod yn ddoctor ar hyn o bryd a doedd e heb cal ei amserlen ar gyfer ail hanner y steddfod pan o'dd pethe'n cael ei trefnu. Y dewis oedd ei cal diwedd yr wythnos a risgio ei colli gan ei fod yn gorfod gweithio neu ei rhoid ar y nos Fawrth eto lle o'dd y band yn sicr yn medru chware. Efo'r albym diweddar yn cael ymateb mor dda mi o'n i isho bod yn siwr bod ni'n gallu rhoid llwyfan i'r band.

gobeithio bod hyn yn neud sens.
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan osian » Gwe 08 Mai 2009 5:15 pm

maes b a ddywedodd:
osian a ddywedodd::ing: pam bod plant duw yn chwara nos fawrth ETO?


dwi'n cytuno - byse'n gret cal Plant Duw i chware diwedd yr wythnos. Yn anffodus ma Conor ar ei rotations i fod yn ddoctor ar hyn o bryd a doedd e heb cal ei amserlen ar gyfer ail hanner y steddfod pan o'dd pethe'n cael ei trefnu. Y dewis oedd ei cal diwedd yr wythnos a risgio ei colli gan ei fod yn gorfod gweithio neu ei rhoid ar y nos Fawrth eto lle o'dd y band yn sicr yn medru chware. Efo'r albym diweddar yn cael ymateb mor dda mi o'n i isho bod yn siwr bod ni'n gallu rhoid llwyfan i'r band.

gobeithio bod hyn yn neud sens.

Gwarthus, ddyla bands neud mwy o ymdr...
Na, ma hynna yn gneud perffaith synnwyr.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Maes B 2009

Postiogan maes b » Maw 19 Mai 2009 1:46 pm

Delwedd
maes b
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 217
Ymunwyd: Iau 22 Medi 2005 7:27 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron