Maes B 2009

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Maes B 2009

Postiogan Sis » Llun 20 Gor 2009 10:00 pm

Dwi'n conffiwsd. Ai'r sefyllfa yw hyn?

Mae modd prynu tocynnau nosweithiol i fynd i MaesB (gigs yn unig) sy'n costio Sad: £12, Llun: £7.50, Maw: £7.50, Mer: £12, Iau: £12, Gwen: £12, Sad: £12
Mae modd prynu tocyn cyfansawdd (Gigs MaesB, gwersylla maes Ieuenctid a Maes Steddfod) sy'n costio Sad-Sad £100, Sul-Sad £90, Llun-Sad £85, Mawr-Sad £75, Mer-Sad £65, Iau-Sad £50, Gwen-Sad £35, Sad £16.

Ond does dim modd prynu tocyn gwersylla yn unig yn y maes Ieuenctid?? Fi'n cael mynediad i faes y steddfod am ddim beth bynnag (gweithio trwy'r wythnos), a fi am fynd i Maes C rhai nosweithiau, Maes B rhai nosweithiau a gigs Cymdeithas yr Iaith rhai nosweithiau, felly pam fod rhaid i fi dalu am fynediad i maes y steddfod a maes b bob nos pan nad ydw i am fynd??? Ac i wneud pethe'n waeth, llynedd wnes i aros mewn pabell ar y maes carafannau, ond does dim lle eleni, felly ble dwi am aros?? Yn y car glei!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Sis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 7:15 pm
Lleoliad: Llanfihangel

Re: Maes B 2009

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 20 Gor 2009 10:06 pm

Dwi'n meddwl bod tocyn maes B yn werth gwych am arian - ma'n debyg bod aros (£97 punt am babell am wythnos) gigs Cymdeithas yr Iaith (agos at £70) a thocynnau maes (tua £90) am gostio tua chant a hanner yn fwy i fi na fasa cael band maes B.

Ond mae tocyn wythnos maes B yn annheg â phobl sydd eisiau aros ar y maes ieuenctid a mynd i gigs Cymdeithas yr Iaith.

Hefyd mae arlwy cerddorol maes B yn syndod o wael i gymharu â CyI.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Maes B 2009

Postiogan Gwehil Maes Gwyddno » Llun 20 Gor 2009 11:10 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod tocyn maes B yn werth gwych am arian - ma'n debyg bod aros (£97 punt am babell am wythnos) gigs Cymdeithas yr Iaith (agos at £70) a thocynnau maes (tua £90) am gostio tua chant a hanner yn fwy i fi na fasa cael band maes B.

Ond mae tocyn wythnos maes B yn annheg â phobl sydd eisiau aros ar y maes ieuenctid a mynd i gigs Cymdeithas yr Iaith.

Hefyd mae arlwy cerddorol maes B yn syndod o wael i gymharu â CyI.


Os swn i isho aros ar y maes ieunctid drwy'r wsos, mynd rownd y maes bob dwrnod, a mynd i bob gig nosweithiol, na'im anghytuno nad ydio'n werth gwych am arian.

Ond dyna di'r broblem efo tocyn wythnos maesB - ma'n y'ch gorfodi chi i fynd i gigs maesB a mynd i'r maes 'i hun, mwy neu lai. Er lles "trigolion" y maes ieuenctid, bysa system Sis uchod yn gweithio'n well - cael tocyn wythnos rhatach am gampio yn unig, ac wedyn ella cal tocyn wythnos ar gyfer campio + mynediad i'r maes + mynediad i gigs maesB. Ond wrth gwrs, fydd dim digon o arian yn ca'l 'i neud fel hyn - sef gwraidd y system bresennol, yn amlwg. 'Swn i wrth y modd gallu mynd draw i gigs dechrau'r wsos ym MaesB i gefnogi bandia ym mrwydr y bandia, a wedyn mlaen i'r hwyl go iawn yng Ngigs Cymdeithas, ond yn parhau i aros yn y maes ieuenctid. Achos i fod yn hollol onest, dydi system cymdeithas o wersylla, neu ei ddiffyg, ddim yn gret, nadi?

Sis a ddywedodd:Ond does dim modd prynu tocyn gwersylla yn unig yn y maes Ieuenctid??


'Dwi'n mynd i eilio ar y cwestiwn yma hefyd, os gai, neu oes posib prynu tocyn gwersylla noson unigol YN UNIG ar y maes ieuenctid am e.e. £5, gan fod y "wasgfa ariannol" ma'n effeithio ar bawb? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwehil Maes Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 26 Ebr 2009 8:10 pm

Re: Maes B 2009

Postiogan CORRACH » Mer 29 Gor 2009 3:14 pm

Newydd fod yn gwneud fy symiau, ac mae'n ymddangos fod popeth dipyn drytach y flwyddyn hon.
(er, mae'r syms yma heb wybod dim byd yn iawn am "Huw Maes Huw" na'r prisiau i aros yn ei gae di-gawod)

Mae £15 i fynd mewn i'r Prif Faes yn shocar (pris oedolyn i mi erbyn hyn; mae gen i docynnau am ddim i rai diwrnodau - sef y rhai nad awn ni yno beth bynnag yn anffodus). Mi af i i'r Maes rhyw ben yn ystod Mercher, Iau a Gwener yn reit siŵr, felly mae hynna yn £45, a dim ond £65 ydi aros yn Maes B o nos Fercher ymlaen. Gallwch chi fynd i Gigs Cymdeithas bob nos o nos Fercher ymlaen, campio yn Maes B ac mae hynny dal yn rhatach fel pacej na champio rhywle arall a thalu i fynd i'r maes.

Os da chi ddim yn mynd i'r Prif Faes, dim problem yn amlwg.

Ooooooooo deilemas. Mae angen rhyw fath o ysgoloriaeth mynediad i'r steddfod wir. Werth £5000 os yn bosib.
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Maes B 2009

Postiogan ger4llt » Gwe 31 Gor 2009 10:05 pm

Newydd fod yn edrych ar y dadleuon ar yr edefyn hwn, a di tynnu hen edefyn am ddadleuon tebyg am MaesB 2005 allan o grombil maes-e. Dwi'n gweld fod Eisteddfod 2009 am fod yn eithriadol o ddrud i mi leni rhwng bob dim. Gyda darpariaeth eitha gwan o gerddoriaeth ym MaesB i gymharu gyda Gigs Cymdeithas yr Iaith, fy'swn i wrth y modd gallu mynd i'r rhan fwya' o gigs y Gymdeithas yn hytrach na MaesB.

Ond wrth edrych ar gostau o fewn tocyn wythnos MaesB, bydd noson e.e. Nos Wener yn costio £19 i aros ar y Maes Ieuenctid. Os nad ydwi am fod eisiau mynychu'r gig yn y nos, a mynd i gig y Gymdeithas yn hytrach, bydd hynny yn golygu £19 o golled y noson honno. Ac os yw rhan fwya o fy ffrindia' i am fod yn aros ar y maes ieuenctid, dydy gwersylla ar faesC (sy'n llawn) neu Faes Huw ddim ar dop y rhestr fel llefydd hwylus i dreulio noson ar ol gig.

Wrth edrych ar yr edefyn uchod, oni'n deall bod pris gwersylla maes ieuenctid yn 2004 yn ddim mond £2.50 y noson. Felly i rei fel fi, mewn theori, ma'r pris yna di codi bron 4 gwaith! :drwg: Rhwng bob dim, allwn i yn y pen draw leni am wsos yn y sdeddfod, fod yn gwario tua £200. A ma'r cysgod yna am fod uwch 'y mhen i bob noson dwi am fod yn mwynhau, lle bynnag ydw i.

Joiwch y steddfod, bois. :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai