Huw M

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Huw M

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 26 Ebr 2009 4:37 pm

Wedi gweld Huw M yn chwarae mewn cwpwl o gigs yn ddiweddar, a wedi mwynhau'r gerddoriaeth yn fawr iawn. Rhywun arall yn hoff o'i gerddoriaeth? Mae modd gwrando ar beth o'r stwff yma - http://www.myspace.com/huwmm

Mae ganddo albwm allan nawr hefyd - 'Os Mewn Sŵn'. Clawr yn wych!

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Huw M

Postiogan tomsyn » Sul 26 Ebr 2009 4:43 pm

ie dwi wedi ei weld mewn cwpwl o'i gigs o hefyd ac wedi ei fwynhau o'n fawr iawn.
mae'r cd yn wych hefyd, ond mae'n well gen i ei wrando arno'n fyw. Felly os gewch chi'r cyfle fysw ni'n awgrymu chi i fynd i'w weld.
Mor ddefnyddiol a condom yn y Vatican City
tomsyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Iau 06 Maw 2008 3:07 pm

Re: Huw M

Postiogan ceribethlem » Llun 27 Ebr 2009 3:35 pm

Huw M neu Huw M M wyt ti'n son am? Mae'n debyg bod dau ohonynt.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Huw M

Postiogan Dai dom da » Llun 27 Ebr 2009 4:09 pm

Aye, joies Huw M lot yng Nghrymych. Insane o multitasking rhwng canu, recordo, chware gitar, newid effeithiau, keyboard, hi-hat! Gwd styff. Ond anghofies i brynnu'r CD ar ddiwedd y gig! Gobeitho bo Awen Teifi yn stocko.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: Huw M

Postiogan Gowpi » Llun 27 Ebr 2009 4:13 pm

nes inne ei fwynhau yng Nghrymych a Chaerfyrddin (y 'locals' ddim cweit wedi deall beth odd yn mynd mlaen yn dre'...) wedi cael ei cd hefyd sydd yn un hyfryd dros ben :D
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Huw M

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 27 Ebr 2009 6:39 pm

ceribethlem a ddywedodd:Huw M neu Huw M M wyt ti'n son am? Mae'n debyg bod dau ohonynt.


Huw M (er fod ei myspace yn defnyddio cyfeiriad HuwMM - http://www.myspace.com/huwmm ). Gynt yn un o'r band Chouchen (neu Ysbryd Chouchen), ond ei stwff unigol yn hollol wahanol. Ddim yn ymwybodol o unrhyw artist Cymraeg arall sy'n defnyddio'r enw 'Huw M' na 'Huw M M', ond mae 'Mr Huw' (gynt o Kentucky AFC) i gael hefyd wrth gwrs - http://www.myspace.com/ymrhuw
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Huw M

Postiogan osian » Llun 27 Ebr 2009 8:01 pm

Yr un yw'r ddau. (huwmm a huwm hynny yw, nid huwmm a mr muw, nac ychwaich mr huw a huwm)

Beth bynnag, oddo'n swnio'n dda iawn yn y Morgan Lloyd nos wenar.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Huw M

Postiogan dafyddpritch » Llun 27 Ebr 2009 9:50 pm

osian a ddywedodd:oddo'n swnio'n dda iawn yn y Morgan Lloyd nos wenar.


Eiliaf, oni yn impresd iawn nos Wener.
Fel yr oeddech
Rhithffurf defnyddiwr
dafyddpritch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 128
Ymunwyd: Gwe 14 Gor 2006 6:12 am
Lleoliad: Llanberis

Re: Huw M

Postiogan Lals » Llun 27 Ebr 2009 10:27 pm

Dw i wrth fy modd gyda'r gan 'Rhywbeth Dros Dro'. Ydy e ar yr albym? Ro'n i eisiau gofyn y cwestiwn iddo yn y Morgan Lloyd Nos Wener ond ro'n i'n rhy embarrassed.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Huw M

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 27 Ebr 2009 10:43 pm

8 cân sydd ar yr albwm 'Os Mewn Sŵn':

1 Hiraeth mawr a hiraeth creulon
2 Ond yn dawel daw y dydd
3 Rhywbeth mawr ym mhopeth bach
4 Y dror sy'n dal y sanau
5 Seddi gwag
6 Gad y diwrnod wrth y drws
7 Cur Pen
8 Michelle Michelle (Cariad Cyntaf)

Mae modd lawrlwytho o itunes trwy Sain: http://www.sainwales.com/rasal/product. ... uid=251471 neu fel CD yma http://cdbaby.com/cd/huwm (gwybodaeth o'r dudalen Myspace)

Bydd adolygiad o'r albwm yn y copi nesaf o gylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Y Tafod, drwy'r post i aelodau, ac am ddim yn Steddfod yr Urdd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai