Pwy fydd band haf 2009?

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy fydd band haf 2009?

Postiogan tomsyn » Iau 21 Mai 2009 9:34 pm

Pwy ydych chi'n meddwl fydd band haf 2009?
Llynedd dwi'n bersonol yn meddwl mai Derwyddon Dr. Gonzo oedd band yr haf 2008 ac mae eu llwyddiant yn y gwobrau RAP wedi profi hun. mae hi'n edrych fel bod ganddynt haf prysur o'i blaena, ond fydda nhw cystal a llynedd?
Ma na lawer o fandiau eraill sydd yn edrych fel petai nhw am fod yn brysur dros yr haf. Race horses, Yr Ods, Sibrydion a Gwibdaith Hen Fran yn fandiau sydd efo lot o gigs yn dod i fynnu dros yr haf. Tybed os fydd un o rhain yn gallu nocio derwyddon off y top spot?
Lot o fandiau ifanc hefyd i weld yn brysur dros yr haf. Eitha Tal Ffranco newydd fod yn rhan o daith tafod efo Y Bandana, ac efo albwm newydd allan yn siwr o fod yn gigio'n gyson dros yr haf. Tra'n son am fandiau ifanc o'r Gogledd, mae gan Y Bandana haf prysur iawn o'i blaena efo lot o gigs a sesiwn c2 i gal ei ryddhau yn ogystal.
Lot o son wedi bod am y bandiau ifanc o'r De dros y flwyddyn (Just Like Frank, Nos Sadwrn Bach, Zimmermans, Byd Dydd Sul), tybed os fydd un o rhain yn dod i lot mwy o amlygrwydd dros yr haf?
Felly rhowch eich barn a cawn edrych nol ar ol i'r haf orffen i weld pwy oedd yn iawn!! :D
Mor ddefnyddiol a condom yn y Vatican City
tomsyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Iau 06 Maw 2008 3:07 pm

Re: Pwy fydd band haf 2009?

Postiogan Cythrel Canu » Sad 23 Mai 2009 12:32 pm

Eitha' Tal Ffranco :)
Pawb at y peth y bo
Rhithffurf defnyddiwr
Cythrel Canu
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 206
Ymunwyd: Mer 28 Meh 2006 12:22 pm
Lleoliad: Lle mae'r pobl gwyllt yn byw

Re: Pwy fydd band haf 2009?

Postiogan TVH11 » Gwe 19 Meh 2009 10:25 pm

Nevarro - http://www.myspace.com/nevarro
Crwydro http://www.myspace.com/crwydro

2 band ifanc newydd i'r sin cymraeg. 2 yn y ffeinal o BYB C2 2009. Dyfodol da gyda'r 2 fand.
Check em out.
TVH11
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 17 Meh 2009 11:46 pm

Re: Pwy fydd band haf 2009?

Postiogan Leusa » Sul 21 Meh 2009 1:50 pm

Dau fand sydd wedi creu argraff mawr dros y flwyddyn ddiwethaf ydi Bandana a'r Ods.
Mae'n hen bryd i'r Ods gael dechra headlinio gigs mawr, a 'dwi'n siwr ddaw hynny'n amlwg dros yr haf. Bandana yn dangos potensial gwych - angen mwy o ganeuon gwreiddiol, mi ddaw hynny efo amser.
mi ddaw mi ddaw
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai