Pwy ydych chi'n meddwl fydd band haf 2009?
Llynedd dwi'n bersonol yn meddwl mai Derwyddon Dr. Gonzo oedd band yr haf 2008 ac mae eu llwyddiant yn y gwobrau RAP wedi profi hun. mae hi'n edrych fel bod ganddynt haf prysur o'i blaena, ond fydda nhw cystal a llynedd?
Ma na lawer o fandiau eraill sydd yn edrych fel petai nhw am fod yn brysur dros yr haf. Race horses, Yr Ods, Sibrydion a Gwibdaith Hen Fran yn fandiau sydd efo lot o gigs yn dod i fynnu dros yr haf. Tybed os fydd un o rhain yn gallu nocio derwyddon off y top spot?
Lot o fandiau ifanc hefyd i weld yn brysur dros yr haf. Eitha Tal Ffranco newydd fod yn rhan o daith tafod efo Y Bandana, ac efo albwm newydd allan yn siwr o fod yn gigio'n gyson dros yr haf. Tra'n son am fandiau ifanc o'r Gogledd, mae gan Y Bandana haf prysur iawn o'i blaena efo lot o gigs a sesiwn c2 i gal ei ryddhau yn ogystal.
Lot o son wedi bod am y bandiau ifanc o'r De dros y flwyddyn (Just Like Frank, Nos Sadwrn Bach, Zimmermans, Byd Dydd Sul), tybed os fydd un o rhain yn dod i lot mwy o amlygrwydd dros yr haf?
Felly rhowch eich barn a cawn edrych nol ar ol i'r haf orffen i weld pwy oedd yn iawn!!