Race Horses - Sengl 'Cake / Cacen Mamgu'

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Race Horses - Sengl 'Cake / Cacen Mamgu'

Postiogan Dai Texas » Maw 02 Meh 2009 6:29 pm

Sengl Newydd Race Horses


Artist: Race Horses
Sengl: Cake / Cacen Mamgu
Fformat: CD
Label: Fantastic Plastic Records
Dyddiad rhyddhau : 06/06/09

Mae wedi bod yn arhosiad hir ond mae sengl newydd RACE HORSES ar garlam. Rowch gynnig ar Cake / Cacen Mamgu, sengl gyntaf dwy ochr-A wych y band, sy’n cael ei ryddhau ar label Fantasic Plastic Records.

Mae’r Race Horses, sy'n drosiad perffaith i ddisgrifio'r band, yn llawn momentwm a chyffro a does dim amheuaeth fod y sengl hon yn ddechrau newydd i’r band sydd eisoes wedi gweld llwyddiant ysgubol fel Radio Luxembourg. Mae’r sengl yn chwildroi gyda melodïau clyfar a syniadau newydd. Mae’r sengl yn gorlifo gyda phop dra gwahanol sy'n gosod y band ar binacl ei gyrfa hyd yma.

Mae Cake yn adrodd hanes dyn sy’n cyfnewid hedoniaeth i goginio! Dywed Mei, cyfansoddwr a phrif leisydd y band, “Mae’r gân yn wrth-ieuenctid ac yn mynd yn erbyn y don o bobl ifanc sy’n gwisgo’n ifanc a chymryd cyffuriau er mwyn ei gwneud i edrych yn ddiddorol.”

Mae’r gitâr ffluwch a glywid ar Cake wedi’i recordio mewn capel ac yn ychwanegu at naws a natur anghonfensiynol y gân.

Cafodd Cacen Mamgu ei gyfansoddi ar ôl penwythnos o ddiffyg cwsg a gorddos o ffilmiau Hitcock! Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i Cake, mae Cacen Mamgu wedi’i gynllunio i ymdebygu i ‘drip’ gwael. Mae’r chwedl ddirdro hon yn adrodd hanes bachgen sy’n cael ei feddu gan ysbryd drwg ei fam-gu.
Wedi’i recordio yng Nghae Mabon, pentref eco yng Ngogledd Cymru, cafodd y sengl ei recordio gan y meistr David Wrench a enillodd gwobr Roc a Phop BBC Radio Cymru am Gynhyrchydd Gorau’r Flwyddyn yn ddiweddar.

Mae Race Horses wedi datblygu ers dyddiau Radio Luxembourg gydag Meilyr Jones ar lais a bas, Dylan Hughes ar allweddellau, synths, gitâr a llais, Alun Gaffey ar gitâr a llais, ac aelod newydd y band, Gwion Llewelyn, ar ddrymiau a llais.

Mae’r band wedi bod yn brysur ac i’w gweld mewn amryw o wyliau yn ystod haf eleni gan gynnwys Gŵyl Cefni, Gŵyl Gardd Goll a Maes B. Mae manylion ei gigs yn Lloegr i’w gweld ar wefan myspace y band, a bydd manylion gigs Cymru yn Mehefin/Gorffennaf yn cael cyhoeddi yn yr wythnosau nesa.

Mae’r ddwy gân oddi ar y sengl newydd i’w glywed ar yr albwm newydd Goodbye Falkenburg, a fydd yn cael ei ryddhau cyn bo hir.

Bydd Cake / Cacen Mamgu ar werth ym mhob gig Race Horses, drwy siopau Cymraeg a thrwy gwefan Fatastic Plastic ar 6ed o Fehefin. Bydd hi hefyd yn bosib ei brynu’n ddigidol trwy i-tunes.

GIGS yr haf cyn belled

5 Meh 2009 17:00
Race Horses - UNED 5 S4C
5 Meh 2009 21:30
Morgan Lloyd Caernarfon
6 Meh 2009 14:00
COB Recrods Instore (2pm) Bangor
10 Meh 2009 20:00
Club Fandango@ 229 Llundain
11 Meh 2009 20:15
Trinity Bar w/ Rogues Llundain (Harrow)
16 Meh 2009 22:00
Night & Day Manchester
17 Meh 2009 19:00
BBC 6 Music Seswin byw efo Marc Riley
20 Meh 2009 20:00
Gwyl Cefni Llangefni, Ynys Mon
25 Meh 2009 21:00
The Swan Ipswich
3 Grof 2009 20:00
Purr Club, Bath
9 Gorf 2009 20:00
HED @ Mad Ferret Preston
24 Gorf 2009 17:00
Square Festival Aberystwyth
25 Gorf 2009 19:30
Carnifal yr Wyddgrug
26 Gorf 2009 14:30
Gwyll Gardd Goll Parc Glynllifon (Caernarfon)
7 Aws 2009 22:00
Maes B Bala
30 Aws 2009 12:00
Copperfest Amlwch, Ynys Mon


http://www.myspace.com/racehorsesmusic am holl fanylion

http://www.bbc.co.uk/cymru/c2/safle/newyddion/cynnwys/race_horses_cake.shtml
Dai Texas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 132
Ymunwyd: Mer 04 Ion 2006 4:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai