...Nia Medi, Siwan Morris (Caerdydd/Skins), Marged Parry, DJ Jaffa a MARGARET WILLIAMS!
12 can bop, dawns, hip-pop ac electro - yn cynnwys y senglau HUFEN IA, AM WASTRAFF, Y GWIR ac EILIAD.
Ar gael NAWR yn eich siop Gymraeg leol, ar iTunes ac ar y we (http://www.spillersrecords.co.uk http://www.fflach.co.uk)
"Dwi wedi bod yn aros am hyn ers blynyddoedd maith - albym ddawns Gymraeg dda! Mae'r holl beth yn cwl a ffynci ac wedi adfer fy ffydd mewn cerddoriaeth dawns Cymraeg. Mae ansawdd y cynhyrchu yn wych - a gyda Nia Medi yn canu anthem Ibiza-aidd a Heather Jones yn canu pop-balad, mae yna rywbeth i bawb! Rhywbeth yn y Gymraeg i ddawnsio iddo ar noson allan - ac wrth baratoi i fynd allan!" Y Cymro
"Pop, hip hop, dawns, electro a Margaret Williams - be arall sydd ei angen de! Mae bron bob elfen o gerddoriaeth i'w chlywed ar yr albwm... y dylanwad mwyaf amlwg yw synths yr wythdegau...rhyw sain debyg i Neon Neon. Mae yna ddimensiwn gwahanol ar bob can ac oherwydd hyn mae'r albwm yn llwyddo i gadw diddordeb rhywun o'r dechrau i'r diwedd. Mae'n braf gweld band fel Clinigol yn ymddangos ar y sin. Hwre! 8/10" Y Selar.
http://www.myspace.com/clinigolmusic