‘Aye Pizza’ amdani
Da ni wedi clywed hen ddigon am y sîn yn Ibiza. Pa bobl ifanc mwyach sy’n gallu fforddio rhoi taith ar awyren a gwesty am wsnos ar y garden credyd yng nghanol y dirwasgiad? Mwy na thebyg fydd ieuenctid Cymru yr haf ‘ma yn aros gartre yn hytrach na mentro allan hyd yn oed – byrbrydau megis pizza neu Take Away o Mr Wah fydd yn cael eu cymryd allan o’r tai bwyta; a’r gerddoriaeth cefndir cymwys i hyn oll fydd remics Dubrobots o gân Dafydd ap Llwyd…
Dyma sŵn yr hen ffordd Gymraeg o fyw ar chwal wrth i’r robotiaid ‘dub’ ( dubrobots.blogspot.com) ymosod ar gyfansoddiad Wyn Williams (http://www.last.fm/music/wyn+williams ) i greu sainlun ‘ambient’ ar gyfer y bore Dydd Sul wedi i’r Nos Sadwrn fawr. Os taw sŵn y sîn yn Ibiza oedd noson fawr yn y clwb, dyma sŵn y sîn sydd ddim yn mentro allan o’r stafell wely rhyw lawer iawn oherwydd bod gorwedd lawr yn deimliad mor moethus a chyffyrddus.
Hoffai’r aderyn ysglyfaethus cas argyhoeddi y bydd y trac "O Fri" ar gael i brynu a lawrlwytho o iTunes o Ddydd Llun yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala (Dydd Llun Awst 3ydd 2009) ymlaen. Chwiliwch ar iTunes am ‘Wyn Williams’ a fydd pethau’n mynd
‘O Fri’.
* Enw llawn y sengl fydd “O Fri” gan Wyn Williams, Dafydd ap Llwyd a’r Dubrobots. Cyhoeddwyd gan nastyvulturerecordings a http://www.sentricmusic.co.uk
* Am fwy am Dafydd ap Llwyd ymwelwch â http://www.myspace.com/dafyddapllwyd
* Dubrobots yw dubrobots.blogspot.com a http://www.myspace.com/dubrobots
Cysyllter am gigs, neu unrhyw wybodaeth pellach
dafyddapllwyd@yahoo.co.uk