Tudalen 1 o 1

SsshBobs - Bobs & the Lawson

PostioPostiwyd: Sul 09 Awst 2009 8:28 pm
gan bobs
Bydd cd newydd Bobs & the Lawson , " SsshBobs", yn cael ei ryddhau ar ddisg ac yn ddigidol ar Fedi 7fed 2009. Bydd y grwp yn chwarae'n fyw erbyn diwedd mis Hydref 2009. Mewn datganiad at ei ego arferol , Huw Pritchard , dywedodd Bobs.."Ni fydd y caneuon hyn - er yn dechnegol addas- yn cael eu rhyddhau i'r GDdB oherwydd tyndra moesol rhyngom." Pan glywodd ei bartner cerddorol amryddawn,Lawson Dando, y dyfyniad hwn, dywedodd y geiriau arwyddocaol "Sssh Bobsi". Mwy o fanylion i ddilyn. http://www.virb.com/bobsandthelawson

Re: SsshBobs - Bobs & the Lawson

PostioPostiwyd: Sul 11 Hyd 2009 2:49 pm
gan bobs
Dyma'r manylion. Mae SsshBobs ar gael ar itunes ar hyn o bryd. Mae 12 can yn y casgliad cyfan. Bydd Bobs & the Lawson yn chwarae gigs ym mis Tachwedd. Mwy o fanylion i ddilyn.

Re: SsshBobs - Bobs & the Lawson

PostioPostiwyd: Llun 12 Gor 2010 9:43 pm
gan bobs
Mae 'SsshBobs' gan Bobs & The Law Son yn cael ei ail ryddhau gyda 'i glawr gwreiddiol gan y cartwnydd Huw Aaron ar Label Byd Bobs ar Orffennaf 30ain 2010. Bydd ar gael o siopau arferol led led Cymru a http://www.sadwrn.com. Os nad yw hwn yn apelio cewch lawr- lwytho'r caneuon ar itunes os dymunech. Fel arall , ewch nol i'ch cyflwr arferol - beth bynnag yw hwnnw. cariiiaaaad Huw