Rhifyn mis Awst o'r Selar allan nawr!
Mae rhifyn diweddaraf Y Selar wedi ei gyhoeddi ac ar gael i chi yn rhad ac am ddim - naill ai'n ddigidiol yma (http://issuu.com/y_selar/docs/y_selar_awst_09) neu mynnwch gopi o'ch swyddfa menter iaith leol.
Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys:
Cyfweliad Bob,
Cyfweliad Derwyddon Dr Gonzo,
Pump perl Magi Dodd,
Dau i'w Dilyn -Nevarro a Y Ffrwydron
adolygiadau a mwy.....
Cylchgrawn Cymraeg yw Y Selar, a sefydlwyd yn 2004, ac sy'n rhoi sylw i bob peth yn ymwneud a'r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Fe arienir y cylchgrawn gan Gyngor Llyfrau Cymru ac fe'i gyhoeddir yn chwarterol. Mae'r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith ac yn ddiolchgar am eu cymorth.
Os ydych chi mewn band, yn trefnu gigs neu'n ymwneud a cherddoriaeth Gymraeg mewn unrhyw fodd, anfonwch ei newyddion i ni at yselar@live.co.uk