Mae Ashokan wedi dod i ddiwedd eu taith. Dagrau neu lawenydd, dewiswch chi. Mae bywyd wedi mynd yn drech ar yr hen fwystfil ers amser bellach ac mae’r aelodau wedi penderfynu gadael i’r carcas bydru mewn heddwch.
Diolch i rheini oedd ag atgasedd pur at y band, hebddyn nhw bydde pethe wedi bod yn ddigon diflas, ond yn bennaf diolch i rheini a fu’n gefnogol trwy gydol bodolaeth y band.
Hoffai aelodau presennol y band ddiolch i bawb sydd erioed wedi bod yn rhan o’r band, cynnig llety, gigio, dawnsio, meddwi neu jyst ‘neud sŵn gyda ni – chi gyd yn rhan o deulu’r Khan.
Mae Ashokan yn edrych ymlaen i glywed band ifanc fydd yn chwarae’n well ac yn uwch na nhw yn y dyfodol agos….
‘Ashokan is dead, long live the Khan’