Gwyn Eifyd a ddywedodd:Mae'r lluniau yma yn anhygoel - yn enwedig y rhai o Pesda Roc (yn cynnwys y llun o Dave Datblygu, sydd erbyn hyn wedi troi'n ddelwedd eiconig), a hefyd Maffia yn Tony's (ai stafell fyw Tony oedd hwna?!)
Diolch Gwyn - roeddwn i jest yn meddwl fod hi'n hen amser rhannu rhain cyn i bobeth fynd yn angof - mae digon o'r lluniau hyd yn oed nawr dwi'n cael problemau cofio pwy ydyn nhw (does fawr o nodiadau gennyf) a de ni yn son am dros 20 mlynedd yn ol. Mae dal swp fawr i ddod neith fy nghadw yn brysur am beth amser - dwi'n gobeithio ail sganio rhai ohonynt hefyd er mwyn cael gwell canlyniadau mae'r sganar yn dda iawn am sganio llwch a sgraffiadau!
Ynglyn a Tony's, wir, sgen ai'm clem am y gig yna o gwbl! Jest ffindio negs hefo label "Maffia, Tony's Bethesda" arno fo!