Tudalen 2 o 3

Re: Maffia Mr Huws a Rhywun Arall - Tony's Bethesda

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 11:27 pm
gan Cythrel Canu
medwyn a ddywedodd:Delwedd

Lluniau Maffia heno - o'r chydig nodiadau sydd gennai ar y negs - gig yn Tony's Bethesda oedd hwn hefo Criw Byw yn ffilmio ond a deud y gwir does gennai ddim clem am erioed fod yn y fath le!

Unwaith eto, does gennai ddim syniad pwy ydy'r band arall - unrhyw syniadau?

Dim ar y funud.

Leinup od gan Maffia noson yma - dim Deiniol a dwi'm yn gwybod pwy di'r gitarydd yn y cefn - falle fod y lluniau wedi eu tynnu yn y 90au cynnar?

John Doyle 'achan.

http://www.flickr.com/photos/ganmed64/sets/72157622292202382/

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 8:16 am
gan Cythrel Canu
medwyn a ddywedodd:Delwedd

Dw'i newydd ddechrau digideiddio ffotograffau o'r Sin Roc Gymraeg o'r 80 au.

Y set gyntaf ydy Pesda Roc 1985 gan gynnwys Y Cyrff, Machlud, Mwg. Llwybr Cyhoeddus, Tanjimei, Pryd Ma Te?, Brodyr y Ffin, Datblygu, Tynal Tywyll, Maraca, Ficer, Eryr Wen, Chwarter i Un, Dinas Naw ac un band arall nad ydw i'n cofio e'u henw - unrhyw un yn gwybod?

Gallwch weld y casgliad yma - http://www.flickr.com/photos/ganmed64/sets/72157622132971709/

Cannoedd mwy ar y ffordd!

Delwedd

Rwy'n credu enw rhain oedd Epil (grwp ifainc o Fethesda) ond sain siwr.

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 7:44 pm
gan medwyn
Cythrel Canu a ddywedodd:

Dwi'm yn meddwl mai Epil oeddwn nhw chwaith - dwi'n meddwl mai o'r de y daethon nhw - yn chwarae roc trwm.

Dwi'n meddwl roedden nhw'n chwarae tua canol y set

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 7:52 pm
gan Hedd Gwynfor
Ar fater bach yn wahanol, oes gan rhywun luniau o aelodau Y Blew, Bando, Y Diliau, Chwyldro a Y Nhw? (60au/70au). Chwilio am rhain ar frys :?

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Maw 08 Medi 2009 9:09 pm
gan Cythrel Canu
medwyn a ddywedodd:
Cythrel Canu a ddywedodd:
medwyn a ddywedodd:Delwedd

Dw'i newydd ddechrau digideiddio ffotograffau o'r Sin Roc Gymraeg o'r 80 au.

Y set gyntaf ydy Pesda Roc 1985 gan gynnwys Y Cyrff, Machlud, Mwg. Llwybr Cyhoeddus, Tanjimei, Pryd Ma Te?, Brodyr y Ffin, Datblygu, Tynal Tywyll, Maraca, Ficer, Eryr Wen, Chwarter i Un, Dinas Naw ac un band arall nad ydw i'n cofio e'u henw - unrhyw un yn gwybod?

Gallwch weld y casgliad yma - http://www.flickr.com/photos/ganmed64/sets/72157622132971709/

Cannoedd mwy ar y ffordd!

Delwedd

Rwy'n credu enw rhain oedd Epil (grwp ifainc o Fethesda) ond sain siwr.

Dwi'm yn meddwl mai Epil oeddwn nhw chwaith - dwi'n meddwl mai o'r de y daethon nhw - yn chwarae roc trwm.

Dwi'n meddwl roedden nhw'n chwarae tua canol y set

Pan ddywedaist ti "roc trwm" :syniad:

Helynt o Ysgol Maes Garmon 'achan ac nid o'r Sowth :lol:

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Mer 09 Medi 2009 8:13 pm
gan Gwyn Eifyd
Mae'r lluniau yma yn anhygoel - yn enwedig y rhai o Pesda Roc (yn cynnwys y llun o Dave Datblygu, sydd erbyn hyn wedi troi'n ddelwedd eiconig), a hefyd Maffia yn Tony's (ai stafell fyw Tony oedd hwna?!)

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Mer 09 Medi 2009 8:47 pm
gan medwyn
Cythrel Canu a ddywedodd:
medwyn a ddywedodd:
Cythrel Canu a ddywedodd:
medwyn a ddywedodd:Delwedd

Dw'i newydd ddechrau digideiddio ffotograffau o'r Sin Roc Gymraeg o'r 80 au.

Y set gyntaf ydy Pesda Roc 1985 gan gynnwys Y Cyrff, Machlud, Mwg. Llwybr Cyhoeddus, Tanjimei, Pryd Ma Te?, Brodyr y Ffin, Datblygu, Tynal Tywyll, Maraca, Ficer, Eryr Wen, Chwarter i Un, Dinas Naw ac un band arall nad ydw i'n cofio e'u henw - unrhyw un yn gwybod?

Gallwch weld y casgliad yma - http://www.flickr.com/photos/ganmed64/sets/72157622132971709/

Cannoedd mwy ar y ffordd!

Delwedd

Rwy'n credu enw rhain oedd Epil (grwp ifainc o Fethesda) ond sain siwr.

Dwi'm yn meddwl mai Epil oeddwn nhw chwaith - dwi'n meddwl mai o'r de y daethon nhw - yn chwarae roc trwm.

Dwi'n meddwl roedden nhw'n chwarae tua canol y set

Pan ddywedaist ti "roc trwm" :syniad:

Helynt o Ysgol Maes Garmon 'achan ac nid o'r Sowth :lol:

Dwi'n meddwl fod i'n iawn yn fane! Diolch, ac ymddiheuriadau am y camwybodaeth deheuol ;-)

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Mer 09 Medi 2009 8:59 pm
gan medwyn
Gwyn Eifyd a ddywedodd:Mae'r lluniau yma yn anhygoel - yn enwedig y rhai o Pesda Roc (yn cynnwys y llun o Dave Datblygu, sydd erbyn hyn wedi troi'n ddelwedd eiconig), a hefyd Maffia yn Tony's (ai stafell fyw Tony oedd hwna?!)

Diolch Gwyn - roeddwn i jest yn meddwl fod hi'n hen amser rhannu rhain cyn i bobeth fynd yn angof - mae digon o'r lluniau hyd yn oed nawr dwi'n cael problemau cofio pwy ydyn nhw (does fawr o nodiadau gennyf) a de ni yn son am dros 20 mlynedd yn ol. Mae dal swp fawr i ddod neith fy nghadw yn brysur am beth amser - dwi'n gobeithio ail sganio rhai ohonynt hefyd er mwyn cael gwell canlyniadau mae'r sganar yn dda iawn am sganio llwch a sgraffiadau!

Ynglyn a Tony's, wir, sgen ai'm clem am y gig yna o gwbl! Jest ffindio negs hefo label "Maffia, Tony's Bethesda" arno fo!

Datblygu Noson Claddu Reu ne Un Dydd Rhyw Ddydd

PostioPostiwyd: Mer 09 Medi 2009 9:23 pm
gan medwyn
Delwedd
Ychydig mwy o luniau - Datblygu - unai yn Noson Claddu Rey, neu Un Dydd Rhyw Ddydd - all unrhyw un gadarnhau hyn?

http://www.flickr.com/photos/ganmed64/sets/72157622198377761/

Re: Datblygu Noson Claddu Reu ne Un Dydd Rhyw Ddydd

PostioPostiwyd: Iau 10 Medi 2009 12:03 pm
gan benni hyll
medwyn a ddywedodd:Delwedd
Ychydig mwy o luniau - Datblygu - unai yn Noson Claddu Rey, neu Un Dydd Rhyw Ddydd - all unrhyw un gadarnhau hyn?

http://www.flickr.com/photos/ganmed64/sets/72157622198377761/

Mae'n edrych fel y band oedd efo fo yn Rhyw Ddydd, Un Dydd. Nes i wylio honno yn ddiweddar felly mae'n eitha ffresh yn fy meddwl.