Tudalen 3 o 3

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Gwe 11 Medi 2009 7:55 pm
gan Chickenfoot
Efallai basa llyfr o luniau fel hyn yn gwerthu'r eitha da.

Mwy o luniau nawr ar Flickr

PostioPostiwyd: Sul 27 Medi 2009 9:34 pm
gan medwyn
Wedi ychwanegu mwy o luniau ar Flickr ac wedi ail drefnu rhywfaint ar y casgliad.

Mae'n bosib eu gweld bellach fel casgliad a nifer o setiau:
http://www.flickr.com/photos/ganmed64/c ... 428234698/

Mae hwn yn cynnwys:
Delwedd
Sesiwn roc o tua 1985 hefo'r Cyrff

Delwedd

Ffa Coffi Pawb o tua 1988 ac ati

Os oes mwy o fanylion gennych am ddyddiadau ac ati neu yn sylwi ar unrhyw wallau, gadewch i mi wybod

Diolch

Re: Mwy o luniau nawr ar Flickr

PostioPostiwyd: Llun 28 Medi 2009 12:53 pm
gan Cythrel Canu
medwyn a ddywedodd:Wedi ychwanegu mwy o luniau ar Flickr ac wedi ail drefnu rhywfaint ar y casgliad.

Mae'n bosib eu gweld bellach fel casgliad a nifer o setiau:
http://www.flickr.com/photos/ganmed64/c ... 428234698/

Mae hwn yn cynnwys:
Delwedd
Sesiwn roc o tua 1985 hefo'r Cyrff

Os oes mwy o fanylion gennych am ddyddiadau ac ati neu yn sylwi ar unrhyw wallau, gadewch i mi wybod

Diolch


Gweler copi o Dracht Rhif 1 yn y cefn. Mehefin 1985. :winc:

Re: Maffia Mr Huws a Rhywun Arall - Tony's Bethesda

PostioPostiwyd: Maw 06 Hyd 2009 12:50 pm
gan Gorwel Roberts
medwyn a ddywedodd:Delwedd

Lluniau Maffia heno - o'r chydig nodiadau sydd gennai ar y negs - gig yn Tony's Bethesda oedd hwn hefo Criw Byw yn ffilmio ond a deud y gwir does gennai ddim clem am erioed fod yn y fath le!

Unwaith eto, does gennai ddim syniad pwy ydy'r band arall - unrhyw syniadau?

Leinup od gan Maffia noson yma - dim Deiniol a dwi'm yn gwybod pwy di'r gitarydd yn y cefn - falle fod y lluniau wedi eu tynnu yn y 90au cynnar?

http://www.flickr.com/photos/ganmed64/sets/72157622292202382/


Dwi'n siwr mai grwp Dafydd Smith ac Arthur Bond yw'r grwp arall yn y gig Maffia yn Tony's Bethesda, methu cofio'r enw ond roeddyn nhw'n canu'r gan "Marina Marina".
Ystafell fach uwchben siop jips Tony ym Methesda oedd Tony's. Dwi'n cofio gweld Eirin peryglus yno.

Re: Digideiddio Ffotograffau SRG yr 80au

PostioPostiwyd: Mer 07 Hyd 2009 8:37 pm
gan medwyn
Fe wnaeth rhywun gysylltu a mi heddiw trwy'r safle yma ynglyn a lluniau Dyn Tolwnd. Dw'i di dileu'r ebost ar ddamwain mae gennai ofn - ellwch chi gysylltu eto plis!