Deuawd : CD newydd Cass Meurig a Nial Cain

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Deuawd : CD newydd Cass Meurig a Nial Cain

Postiogan cwrwgl » Mer 30 Medi 2009 9:32 am

Wow, mae hon y glasur.
Mae'n cael yr un effaith ag oedd CD's "Aderyn Papur" ATL a "Dychwelyd" Dan Amor pan rhyddhawyd y rheiny gyntaf.

Hyder tawel ddiymhongar, naws hypnotig, yn eich tynnu i fewn yn ara deg, gwreiddioldeb, offeryniaeth wych...
CD y flwyddyn i fi heb os.

Ddigon da i'w chwarae ar Late Junction Radio 3, DIM sylw gan y cyfryngau Cymreig wrth gwrs :rolio:

http://www.fflach.co.uk/cms/index.php?m ... AGE_id=131
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: Deuawd : CD newydd Cass Meurig a Nial Cain

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 30 Medi 2009 2:58 pm

Y cyfryngau Cymreig yn rhoi sylw i rywbeth gwirioneddol Gymreig - it'll never happen. Hefyd tydi pethau fel hyn ddim yn ffitio 'slots' a meddylfryd Radio Cymru. Fydd o byth yn cael cyfle ar C2 achos 'yoof' yw hwnnw, ydi Jonsi'n debygol o chwarae trac - nac ydi. Daf Du ac Eleri Sion - na does dim selebs arno.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Deuawd : CD newydd Cass Meurig a Nial Cain

Postiogan Gowpi » Mer 30 Medi 2009 3:32 pm

Ody'r crwth yn cael ei chwarae arno? Mae 'na reswm pam ddaeth yr offeryn hynny i ben... :winc:
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Deuawd : CD newydd Cass Meurig a Nial Cain

Postiogan cwrwgl » Mer 30 Medi 2009 8:48 pm

Ti'n iawn, Gorwel, dio ddim yn ffitio i'r "playlist brief" so dio jyst ddim yn mynd i gael air time o gwbwl ar Radio Cymru nachdi? Am bechod. Cymaint o stwff da Cymraeg sydd BYTH am gael ei glywed ar y radio. Wedyn mae nhw'n mynd a chwarae traciau pop gwael Saesneg o'r 80au. Pam?

Ho ho.
Oes Gowpi, mae cwpl o tracs efo Crwth, ond o be gofia i mond un sy'n trac crwth "hardcore" :ofn: !!
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron