PSI - Gosodiadau

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

PSI - Gosodiadau

Postiogan Crafu Byw » Iau 01 Hyd 2009 7:38 am

Delwedd

PSI – ‘GOSODIADAU’

ALLAN NAWR AR CRAFU BYW

‘Gosodiadau’ ydi casgliad diweddaraf PSI aka Llyr Dyfan, cyn aelod o’r grwp electroneg WwzZ. Rhyddhawyd ei albym gyntaf ‘Yr Alarch Hud’ ar label Crafu Byw llynedd ac yn y cyfamser mae Llyr wedi bod yn brysyur yn cynhyrchu mwy o draciau electroneg arbrofol a recordio sesynnau radio i Lisa Gwilym ac Huw Stephens ar C2 Radio Cymru. Darlledwyd y pedwar trac cyntaf ar Gosodiadau yn wreiddiol fel sesiwn radio i Lisa Gwilym ar C2.

Cafodd ‘Yr Alarch Hud’ dipyn o sylw ar sioeau radio yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt gan cael ei chwarae ar RTE yn Iwerddon a B-92 yn Serbia.

Gan weithio dydd a nos heb weld golau dydd am gyfnodau, cynhyrchodd Llyr ‘Gosodiadau’ yn selar ei fflat ym Mangor. Mae’r albym yn ddatblygiad o rhythmau pendant a chymlethyn ei gasgliad diwethaf ac wedi ei ysbrydoli gan fawrion cerddoriaeth electroneg fel Autecher a Speedy J.

Gallwch wrando ar bedwar trac oddi ar Gosodiadau ar myspace PSI - http://www.myspace.com/psiuk
Rhithffurf defnyddiwr
Crafu Byw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 1:01 pm

Re: PSI - Gosodiadau

Postiogan Crafu Byw » Maw 13 Hyd 2009 3:49 pm

Adolygiad yn Y Cymro gan gareth Potter:

GOSODIADAU TYWYLL I YSGOGI'R DYCHYMYG

Mae gan electronica, sef cerddoriaeth wedi’i greu ar offerynnau electronaidd, hanes hir ac anhrydeddus yn y sin Gymraeg. Ers y saithdegau hwyr, pan oedd synau syntheseisydd Dickie Dunn i’w clywed ar recordiau hir chwyldroadol Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr o’r cyfnod mae synnau arallfydol wedi bod yna’n herio ac yn creu naws ac adio blas i’r cawl roc a rol.

Roedd casetiau cynar Malcolm Neon yn chwa o awyr iach yn yr wythdegau cynar pan oedd cerddoriaeth Gymraeg yn ei ffeindio hi’n anodd ar adegau i ddarganfod cyfeiriad positif. Fe bwyntio’n nhw’r ffordd at gwaith ddylanwadol a bytholwyrdd Datblygu, Plant Bach Ofnus ac Eirin Peryglus. Yn eu tro fe wnaeth y grwpiau yma ysgogi’r Super furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci sydd yn dal i gael effaith di fesur ar grwpiau heddiw.

Mae na rywbeth am gerddoriaeth electronaidd sydd yn gallu bod yn hollol boncyrs ac arbrofol ond yn hollol, hollol pop. Weithiau ar yr un pryd. Yn ystod y Saithdegau roedd y grwp Almaeneg Kraftwerk yn gallu ysgrifennu caneuon ugain munud o hyd am deithio lawr y traffordd (Autobahn) ond yn dal yn gallu cael top ten hit gyda’r fersiwn byr a’i berfformio ar Top of the Pops.

Yn ystod y cyfnod dawns yn y nawdegau fe ddeth hyn fwyaf i’r amlwg. Fe ddaeth cyfrifiaduron a’r meddalwedd i greu cerddoriaeth arnynt yn fforddiadwy ac fe ddaeth miloedd o fechgyn a merched yn gynhyrchwyr stafell gwely gan gwario’u ceiniogau sbar ar allweddellau, samplers a deciau yn lle gitars a drymiau. Fe lenwyd y siartiau’n gyda criwiau o ravers cegog a boffins anhysbell. Roedd hyn yn beth da!

Yn ystod y cyfnod yma, cwrddais a Llyr Dyfan am y tro cyntaf. Roedd yn aelod o’r grwp WwzZ, oedd yn aml yn chwarae ar yr un bil a mi pan oeddwn i yn ‘Ty Gwydr’. Roedd WwzZ yn fantastic. Ddim yn hidio dim am roi sioe arno neu bod yn pop stars, just yn rhoi eu pennau lawr a throi’r miwsic lan a gwneud i’r dorf ddawnsio’n nyts i’w curiadau techno cadarn a dwfn. Fe aeth Cian o WwzZ ymlaen i ymuno gyda’r Super Furries tra’r aeth Mei a Llyr i greu rhagor o hafoc electronaidd a ffurfio Tokyu.

Erbyn hyn mae Llyr wedi rhyddhau ei ail gasgliad o synnau atmosfferic a nodweddiadol dan yr enw PSI ar y label ardderchog CRAFU BYW. Mae GOSODIADAU yn albym tywyll llawn naws a thensiwn sy’n cadw’r gweandawr ar ochr ei sedd nes i’r nodau olaf gyrraedd fel sioc i’r system. Mae’r deg trac yn adaeladu ac yn treiddio trwy’r ymenydd gyda haenau sonic yn codi a disgyn i ffwrdd gan fynd a thi ar daith drwy rhyw fyd rhithiol lle nad yw popeth cweit fel dyle fe fod.

Mae teitlau’r darnau’n gliws, ond dy’n nhw ddim yn rhoi llawer i ffwrdd: Suddo, Llyffantod, Cylch Crwn, Ymyl Pump a Bwlch Cul i enwi pump ohonynt. Mae e fel petai Llyr am i ni greu senario yn ein pennau wrth wrando ar albym. Ac mae’n gweithio fel albym – mae e werth gwrando ar y peth ar ei hyd trwy par o headphones tra mas yn seiclo neu’n gorwedd ar gwely mewn ystafell tywyll.

Nid cerddoriaeth ddawns i’r traed efallau, ond rhywbeth i ysgogi’r ddychymig yn sicr, mae GOSODIADAU yn un o’r CD’s mwyaf heriol i mi glywed ers misoedd.

GARETH POTTER 4/10/09
Rhithffurf defnyddiwr
Crafu Byw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 1:01 pm


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron