Newidiadau ym myd y Sibrydion

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Newidiadau ym myd y Sibrydion

Postiogan sibrydion » Maw 06 Hyd 2009 9:49 am

Dyma nodyn cyflym i adael chi wybod beth sy'n digwydd ym myd y Sibrydion ar hyn o bryd.

Ar ol gig wych yn maes-b eleni, roedd a ni i gyd yn cael parti yn y cefn, a dyna pryd wnaeth Rhys gadel ni wybod ei fod yn gorfod gadael y band, a rhoi ei holl egni i fewn i redeg y Cell ym Mlaena Ffestiniog.
Gafo ni gyd ychydig o sioc, gan fod y flwyddyn yma wedi bod y flwyddyn mwya llwyddianus y band ers i ni ffurfio yn 2004, ond da ni yn deallt yn union o ble ma Rhys yn dod o, ag da ni yn gwerthfawrogi fod o eisiau gwneud llwyddiant o ei fenter gwych yn ei dre enedigol.
Ma hi wedi bod yn brofiad gwych cael rhannu llwyfan hefo un o faswyr gora Cymru, ag fe fydda ni yn colli gorfod gwrando ar cd's dub/funk/saicydelics yn y van ar y ffordd i gigs a ballu!!
soooo, ar ol crafu pen am chydig o wythnosa, fe wnaeth enw Eifion (gynt o'r Poppies) ddod i fynu sawl gwaith, a mae o wedi gwneud ei gig cynta i ni yn y Lexington, Llundain wythnos dwythaf.Fe roedd hi yn gig wych, a mae'n falch i ni ddeud fod o am gamu i fewn i esgidiau mawr a drewllyd Rhys ar ol i Rhys wneud ei gig olaf hefo ni , yn darfod noson Rhyngol Aberystwyth ( sydd ar y 7fed o Dachwedd).
Felly, mi fusa ni i gyd yn hoffi dweud diolch anferthol i ein brawd o Fleuna, a gobeithio fydd y Cell yn lwyddiant ysgubol!!
CARIAD MAWRXXXXX
cachupisorhechmyndiawlicaudygeg
Rhithffurf defnyddiwr
sibrydion
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 23 Mai 2006 6:01 pm

Re: Newidiadau ym myd y Sibrydion

Postiogan benni hyll » Maw 06 Hyd 2009 6:49 pm

Pob lwc i chi efo'r line-up newydd!
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 15 gwestai