Danteithion Plant Duw

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Danteithion Plant Duw

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Sul 25 Hyd 2009 4:34 pm

I chwi sy'n ddigon ffol i ddilyn anturiaethau anffortunus y band hynod hwnnw, Plant Duw, efallai y byddech yn hoffi gwybod ein bod ni wedi gwneud sesiwn ar sioe Marc Riley ar BBC 6Music wythnos diwethaf. Fedrwch chi ei glywed yma: http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00nf0m5/Marc_Riley_20_10_2009/

Fydd o wedi diflannu erbyn Nos Fawrth, mae'n debyg, ond na phoener, achos mae un can oddi ar y sesiwn, 'Astronot', yn barod wedi ei roi ar ein MySpace, ac mae'n debyg y byddwn ni'n rhoi'r caneuon eraill, a'n cyfweliad efo Marc, ar y we ar ryw bwynt yn ogystal.

Son am gyfweliadau, 'da ni hefyd wedi gwneud cyfweliad efo cylchgrawn / gwefan o'r Iseldiroedd, yn son am y band ac yn rhoi ein teimladau ni ar yr hen SRG annwyl. Mae hwnna yma:

http://www.incendiarymag.com/modules.ph ... e&sid=2199

Mwynhewch a byddwch lawen, canys yfory etc.
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Re: Danteithion Plant Duw

Postiogan Sioni Size » Llun 26 Hyd 2009 6:03 pm

Cyfweliad sgogoneddus. Llond crochan o synnwyr a shenanigiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron