I chwi sy'n ddigon ffol i ddilyn anturiaethau anffortunus y band hynod hwnnw, Plant Duw, efallai y byddech yn hoffi gwybod ein bod ni wedi gwneud sesiwn ar sioe Marc Riley ar BBC 6Music wythnos diwethaf. Fedrwch chi ei glywed yma: http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00nf0m5/Marc_Riley_20_10_2009/
Fydd o wedi diflannu erbyn Nos Fawrth, mae'n debyg, ond na phoener, achos mae un can oddi ar y sesiwn, 'Astronot', yn barod wedi ei roi ar ein MySpace, ac mae'n debyg y byddwn ni'n rhoi'r caneuon eraill, a'n cyfweliad efo Marc, ar y we ar ryw bwynt yn ogystal.
Son am gyfweliadau, 'da ni hefyd wedi gwneud cyfweliad efo cylchgrawn / gwefan o'r Iseldiroedd, yn son am y band ac yn rhoi ein teimladau ni ar yr hen SRG annwyl. Mae hwnna yma:
http://www.incendiarymag.com/modules.ph ... e&sid=2199
Mwynhewch a byddwch lawen, canys yfory etc.