Cyfarfod Rhwydweithio a Diodydd Nadolig SCG 2/12/09
Rhyddhau Adroddiad Prifysgol Bangor ar y Diwydiant Cerddoriaeth
Ddydd mercher Rhagfyr 2 yn Galeri, Caernarfon lawnsir yr Adroddiad ar gyfer y Diwydiant Cerddoriaeth Cymraeg gan Brifysgol Bangor.
Bydd Pwyll ap Sion a Deian ap Rhisiart yn cyflwyno a’n dadansoddi ei ganlyniadau gyda phanel o arbennigwyr yn ymateb. Disgwylir i bynciau fel dichonolrwydd corff casglu annibynnol, taliadau radio a theledu, y syniad o nawdd, gwerthiant a’r sin fyw fod yn flaenllaw.
Medd aelod o'r panel, Dafydd Roberts o sain - "Mae hwn yn adroddiad gwerthfawr iawn sy'n datgan yn glir beth yw'r camau sydd angen eu cymryd er mwyn gwella hyfywedd y diwydiant cerdd yng Nghymru. Yn bersonol, credaf y byddai cwblhau astudiaeth dichonoldeb fanwl ar gyfer corff trwyddedu annibynnol Cymreig yn gam mawr ymlaen i'r diwydiant."
O 12 tan 4 (gyda cinio bwffe).
Yna ymunwch gyda ni yn y bar am glonc a diodydd Nadolig SCG.
I archebu eich lle ebostiwch hefin@sefydliadcerddoriaethgymreig.com neu Becci@welshmusicfoundation.com