Mae Cân i Gymru y tu hwnt i fod yn jôc bellach. Roedd y rhaglen neithiwr yn gywilyddus. 'Does ryfedd fod yna gymaint yn troi drosodd i Radio 1 neu 2, achos os di'r caneuon hyn yn nodweddiadol o'r hyn sydd i ddod, Duw â'n helpo.
Dwi'n hollol gefnogol i farn Dewi Pws am ormod o ganeuon Saesneg ar Radio Cymru. Ond ar y llaw arall, pa ganeuon Cymraeg newydd sy'n mynd i ddal dychymyg y genedl? Mae Cân i Gymru wedi cynhyrchu caneuon da yn y gorffennol: Nwy yn y Nen, Nid Llwynog oedd yr Haul, Y Cwm a.y.y.b, ac yn dal i gynhyrchu caneuon "olreit" tan yn weddol ddiweddar (Harbwr Diogel, Cae o Yd et al). Ond erbyn hyn dan ni'n rhygnu ymlaen bob blwyddyn a gwobrwyo caneuon gwirioneddol wael jesd er mwyn cael rhaglen. Ac o achos hynny, ni chawn ni gân dda unwaith eto achos mae'r peth wedi mynd yn gymaint o jôc.
Mae'r llythyr yn Golwg tua 'thefnos yn ôl am Alun Tan Lan yn ddifyr iawn. Rwan mae ganddo fo ddeng mil yn ei boced (wrach chydig llai ar ol bachandyr neis i Tomi Wyn), ac mi gawn ni stiwdio fechan neis er mwyn cael llawer mwy o ganeuon diddim. Dydw i ddim yn deall be odd gan Alun Tan Lan i'w brofi. Mae ennill Cân i Gymru fel cam mawr yn ôl (ond eto yn gam hawdd i'w gymryd os oes addewid o 10 mil) tra gallasai'r arian fod wedi cael'i fuddsoddi yn llawer gwell mewn artist ifanc, ffres, talentog.
Hen bryd i symud ymlaen oddi wrth yr anifail lled-farw hwn a elwir Cân i Gymru.
Yn y fan hon y terfyna'r pregeth.
(nid grawnwin surion mo hyn, jesd rhwystredigaeth!!)