Wi'n treial cael gafael o gopi o Joio Byw (Cwm Rhyd y Chwadods, Delwyn Sion a'r Chwadods, Sain 1994 C489G) ond heb lwc. Wi wedi cysylltu a Sain, ond doedden nhw ddim yn gallu helpu oherwydd caset oedd y recordiad a dyw e ddim ar gael rhagor.
Oes gyda unrhywun gopi galla i benthyg neu prynu, os gwelwch yn dda? Bydden i wrth fy modd gallu cyflwyno fy merch fach i'r gan hon!
Gyda diolch!