Tudalen 1 o 1

Slade Merry Christmas yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 21 Rhag 2009 9:31 am
gan dewi_o
Mae can Merry Christmas gan Slade wedi ei gyfiaethu mewn i'r Gymraeg

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8419595.stm

Re: Slade Merry Christmas yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 23 Rhag 2009 4:24 pm
gan Madrwyddygryf
Pam? Be di'r pwynt o wneud hynny?

Re: Slade Merry Christmas yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 23 Rhag 2009 10:08 pm
gan ger4llt
Ma'r fersiwn yn anobeithiol o wael 'fyd o'r snippets sy' wedi'u chwara ar y radio..a'n fwy na hynny, yn ôl y stori BBC, fuon nhw wrthi'n gofyn i Noddy Holder am ganiatâd.."Pam?" eto?? dio ddim am gael i 'ryddhau... (gobethio ddim!)

Re: Slade Merry Christmas yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 24 Rhag 2009 3:43 pm
gan osian
Licio'r ffaith bod pawb yn deud mai Nevarro ydi'r band cynta' rioed i gal caniatad gan Slade i neud cyfyr. Ond yn ol bedwi'n ddallt, mond mater o ofyn i Noddy Holder oedd o. Felly mewn gwirionedd, mi fedra'r peth gael ei roi mewn ffordd arall. Nevarro ydi'r band cynta i fod isho neud cyfyr o Merry Xmas Everyone.

Re: Slade Merry Christmas yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 06 Mai 2011 9:01 pm
gan Gwiwer llwyd
Dydy e ddim yn fand a dydy'r cyfyr ddim yn Gymraeg ond gwnaeth Tony Christie fersiwn o'r gan “Merry Xmas Everybody”. Cafodd y gan ei rhyddhau ar gryno ddisg o'r enw “MOJO's Festive Fifteen” ym mis Rhagfyr 2010 gan gylchgrawn MOJO. Felly, efallai, roedd osian yn gywir pan ddwedodd “Nevarro ydi'r band cynta i fod isho neud cyfyr o Merry Xmas Everyone”.
Ar wahân i'r enw'r gan.
Galw fi yn bedantig. Mae'n wir.