deuwedd - endaf emlyn

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

deuwedd - endaf emlyn

Postiogan Gorwel Roberts » Gwe 01 Ion 2010 3:22 pm

Pwy fyddai'n meddwl y byddai EE yn dychwelyd i'r SRG efo albym sydd cystal os nad yn well na'r hen rai nath o. Dwi'n ffan ers 1976 felly mae'n bleser clywed ei lais a'i ddawn unigryw unwaith eto.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: deuwedd - endaf emlyn

Postiogan Sioni Size » Maw 12 Ion 2010 3:16 pm

Hollol. Clyfrwch a chymysgedd o'r cyfarwydd a'r gwahanol, albwm o fri.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: deuwedd - endaf emlyn

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 13 Ion 2010 11:23 am

Jyst yn anhygoel.

Sgwn i be mae Llywelyn Richards yn ei feddwl? Lle mae hon yn sefyll ar y raddfa? Hiraeth Salem Syrffio Dawnsionara Deuwedd - pob un yn wych yn ei ffordd ei hun ond hon di'r ora ella? Mae hi fel petai hi wedi hidlo pethau gorau'r albyms blaenorol i gyd yn un.

diolch am rywun sy'n gallu sgwennu geiriau gwerth eu prosesu drwy dy glustiau i mewn i dy ymennydd
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: deuwedd - endaf emlyn

Postiogan osian » Mer 13 Ion 2010 11:47 am

Dydw i heb gael cyfle i wrando arni yn iawn, dim ond yn y cefndir. Yr unig gân dwi'n gyfarwydd â hi ydi Siarad Babi, a dwi'm yn hoff ohoni o gwbl, ond yn ôl rhai sydd wedi gwrando ar yr albym, hon ydi'r gân sala'. Does ryfedd felly mai honno - yn nhraddodiad Sigla dy Din, Steve Eaves ac ati - sydd yn cael ei chwara ar Radio Cymru o hyd!

(Ma tuedd yr orsaf i chwara caneuon sydd yn dangos nhw mewn gola' gwael yn ddiddorol hefyd. Oni arfar cysylltu â Dylan a Meinir yn reit aml yn gofyn am ryw gân benodol gan Datblygu, ond oeddan nhw bob tro yn mynnu chwara Can i Gymry, sy'n sôn am weithio 1 tan 3 yn gynhyrchydd BBC...)

Rhaid mi wrando'n iawn ar yr albym yma.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: deuwedd - endaf emlyn

Postiogan osian » Mer 13 Ion 2010 11:57 am

Pwynt arall, ma hynny dwi 'di glywad o Deuwedd yn fy nharo i rhy debyg braidd i'r sŵn Carylparryjones/Eden-aidd sy'n bla! Hynny ydi, yr harmoneiddio felltith sydd ar bob carol wedi'i 'jazzio fyny', a cherddoriaeth agoriadol tri chwartar rhaglenni s4c. dwi'n casau'r sŵn.

ond anheg 'sa (rhag)farnu'r albym ar sail hyny.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: deuwedd - endaf emlyn

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 13 Ion 2010 1:22 pm

osian a ddywedodd:Pwynt arall, ma hynny dwi 'di glywad o Deuwedd yn fy nharo i rhy debyg braidd i'r sŵn Carylparryjones/Eden-aidd sy'n bla! Hynny ydi, yr harmoneiddio felltith sydd ar bob carol wedi'i 'jazzio fyny', a cherddoriaeth agoriadol tri chwartar rhaglenni s4c. dwi'n casau'r sŵn.

ond anheg 'sa (rhag)farnu'r albym ar sail hyny.


Oni'n gwrando ar ryw intro i ryw gan ar yr i-pod neithiwr a doeddwn i ddim yn siwr ai gwrando ar Endaf Emlyn ynteu Steely Dan oeddwn i. Ymmmm, cofiwch nid CPJ/Eden ac S4C nath ddyfeisio roc-jazz jazz roc.

golchwn eich clustia!

jyst gwrandewch ar yr albym i gyd yn iawn. sdim rhaid i ti licio hi wedyn chwaith
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: deuwedd - endaf emlyn

Postiogan osian » Mer 13 Ion 2010 2:10 pm

Gorwel Roberts a ddywedodd:
osian a ddywedodd:Pwynt arall, ma hynny dwi 'di glywad o Deuwedd yn fy nharo i rhy debyg braidd i'r sŵn Carylparryjones/Eden-aidd sy'n bla! Hynny ydi, yr harmoneiddio felltith sydd ar bob carol wedi'i 'jazzio fyny', a cherddoriaeth agoriadol tri chwartar rhaglenni s4c. dwi'n casau'r sŵn.

ond anheg 'sa (rhag)farnu'r albym ar sail hyny.


Oni'n gwrando ar ryw intro i ryw gan ar yr i-pod neithiwr a doeddwn i ddim yn siwr ai gwrando ar Endaf Emlyn ynteu Steely Dan oeddwn i. Ymmmm, cofiwch nid CPJ/Eden ac S4C nath ddyfeisio roc-jazz jazz roc.

golchwn eich clustia!

jyst gwrandewch ar yr albym i gyd yn iawn. sdim rhaid i ti licio hi wedyn chwaith

Wn i nad nhw ddyfeisiodd o, ond ma'n amlwg pan mae gan CPJ wbath i neud efo'r peth achos ma'r un lleisia i'w clywad o hyd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: deuwedd - endaf emlyn

Postiogan Gorwel Roberts » Mer 13 Ion 2010 2:25 pm

dwi'n gweld dy bwynt di ond o leiaf tydi ysgol glanaethwy ddim ar yr albym
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai