Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 11 Ion 2010 11:10 am

Dwi'n hoff iawn o Bob Delyn. Band da. Dim byd yn fawreddog, snobyddlyd...
Cytuno i chwarae ym Mhortmeirion ar y rhaglen Nodyn? Naws/awyrgylch uffernol o snobyddlyd sydd i'r pentref ymhongar yma. Camgymeriad gan y band?
Mae yna fwy nag un ochr i'r geiniog a mwy nag un ffordd o sbio ar bethau. Sut ydych chi'n gweld pethau?
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan osian » Llun 11 Ion 2010 4:00 pm

Dwi'm yn meddwl bod 'na awyrgylch snobyddlyd yna o gwbl, oddo'n le da iddyn nhw chwara dwi meddwl. Hefyd, fel na'th o esbonio, ma gan Twm Morys gysylltiada efo'r lle - oddo'n mynd yna yn aml pan yn blentyn, a ma'n nabod Robin Llywelyn, y rheolwr presennol.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 11 Ion 2010 5:09 pm

Yn fy marn i, dylsai'r band fod wedi cytuno mynd ar y rhaglen ar yr amod eu bod yn cael chwarae mewn lleoliad mwy diymhongar. Tafarn hefo lot o gymeriad, hen weithdy, Amgueddfa Lechi Llanber, ffair...y math yna o beth. Rhywle mwy cymwys...Ond wedi dweud hyn, mwynheais y perfformiad :D
Osian- ti wirioneddol o'r farn nad oes yna awyrgylch snobyddlyd yn perthyn i'r lle?
Nid wyf am yrru neges eto yma. 'Dwi ddim isho lambastio un o fandiau Cymraeg gorau y degawdau diwethaf yn ormodol.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan CORRACH » Llun 11 Ion 2010 5:48 pm

:lol:

O na! Gwarth! Mae'r "Werin" Gymraeg wedi marw, mae'n amlwg. Be nawn ni, neno'r Tad? Llosgi'r Crwth? Rhoi heibio'r ddawns?

Ymha ffordd fydd o'n "gamgymeriad i'r band"?? Cyhoeddusrwydd negyddol? Colli ffans? Cwymp yn y gwerthiant CD's? Ymgais ar fywyd Gorwel a Twm???

. . . . na, do'n i'm yn meddwl. :rolio:




........... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Llun 11 Ion 2010 5:54 pm

Caniatewch i mi dorri fy addewid :D
Ateb: tolc bach i ddelwedd y band? Barn rhesymol am wn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan Ar Mada » Llun 11 Ion 2010 6:08 pm

Nath canu mewn llysoedd yr Uchelwyr dim drwg i ddelwedd Dafydd ap Gwilym!
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan dil » Llun 11 Ion 2010 7:37 pm

canu can mor hen odd y broblem gena fi.er fod hi'n dda.
sgena nhw ddim can mwy diweddar i hyrwyddo.?
ac os ddim be odde nhwn neud ar y rhaglen?
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan Josgin » Llun 11 Ion 2010 7:51 pm

Mae Portmeirion yn le crand , heb os nac onibai. Ond , mae yn nwylo Cymro Cymraeg o genedlaetholwr gydag enw da am gyflogi Cymry.Efallai nad yw pawb yn ymwybodol o hyn .
Ar y llaw arall, mae digon o dafarndai 'gwerinol' i'w cael sydd yn nwylo Saeson neu bragwyr , sy'n cyflogi Saeson .
Pam felly mae yna fai ar Bob Delyn ? . A oes disgwyl i ni fynd yn ol i ffilmio ' noson lawen ' mewn sguborau ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan dil » Llun 11 Ion 2010 8:25 pm

portmeirion yn le diddorol.
edrych mlaeni glywed stwff newydd gan y band.ma twm morus di bod yn canu caneuon newydd ar y slei dydi.
a ma' nhwn well na dim erioed.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Bob Delyn ar Nodyn ym Mhortmeirion-be ddiawl??

Postiogan osian » Llun 11 Ion 2010 8:52 pm

dil a ddywedodd:canu can mor hen odd y broblem gena fi.er fod hi'n dda.
sgena nhw ddim can mwy diweddar i hyrwyddo.?
ac os ddim be odde nhwn neud ar y rhaglen?

Oes, yr un naethon nhw ganu yn ail hannar y rhaglan!
Dyna gyfrinach Nodyn (sydd, dwi meddwl, wedi gwella dipyn gyfres yma) - y gymysgedd. Caneuon hen a newydd, artistiaid hen a newydd, canol y ffordd ac amgen etc.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron