Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Dwi'n hoff iawn o Bob Delyn. Band da. Dim byd yn fawreddog, snobyddlyd...
Cytuno i chwarae ym Mhortmeirion ar y rhaglen Nodyn? Naws/awyrgylch uffernol o snobyddlyd sydd i'r pentref ymhongar yma. Camgymeriad gan y band?
Mae yna fwy nag un ochr i'r geiniog a mwy nag un ffordd o sbio ar bethau. Sut ydych chi'n gweld pethau?
Be ****??
Rhaglen gerddoriaeth ydi hi, i ddechrau. Tydi'r cefndir yn ddim byd ond candi i'r llygaid, ys dywed y Sais.
Yn ail, beth bynnag wyt ti'n olygu gan "naws/wyrgylch uffernol o snobyddlyd", dydi hynny ddim yn cael ei gyfleu gan gamerau.
Mae na ormod o nonsens ffilmio bandiau'n chwarau mewn tafarndai 'llawn cymeriad' fel ag y mae hi, a dwi ddim yn dallt pam. Dwi'm isho gweld band yn cogio bo nhw'n cadw rhyw draddodiad i fynd drwy gael eu ffilmio'n chwara mewn pyb. Os dwi isho gweld band mewn pyb, mi ai i weld band i'r pyb.
Yn syml, mae Portmeirion yn leoliad hyfryd o ran daearyddiaeth a golygfeydd, a drwy hynny yn edrych yn gret ar gamera, waeth pa deimladau wyt ti'n gael o ran 'awyrgylch'. Mae dy son am 'leoliad diymhongar' yn baradocs llwyr yn y cyd-destun yma.
Fel ddudishi, rhaglen gerddoriaeth ydi Nodyn, mwynha'r gerddoriath a mwynha'r lluniau. Dyna'r oll ydio.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.