Lle ma'r sin di fynd pawb?

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Candelas » Mer 03 Maw 2010 12:24 am

Helo dwin newydd i maes e felly sori os dwin neud rhywbeth oi le.

Dwin cytuno efo Sionyn achos dwi di weld on diwgydd yn ardal fi. Os dion cosdio wth y drws ma pobol yn meddwl dwywaith cyn mynd i fewn achos bod on tynnu i ffwrdd oi pres cwrw nw a dwin teimlo fel bod on gwaethygu bob blwyddyn fel mae prishe cwrwn mynd fynu. Ma agwedd pobl at fiwsig yn newid dwin meddwl, ma pobl yn tueddu i fynd i glwbiau fwy i wrando ar caneuon saesneg 'clybi' er bo chin gallu deud bo hanner ohonu nw ddim yn hoff or miwsig ond dyna lle mar 'pobl i gyd' ar peth ydi mar pobl yn mynd yn nyts am y caneuon rock o hyd yn diwedd.

DWin cytuno fod sin caernarfon yn dda a dwin diolch ir pobl sun trefnu fo ond dyle bod na rwbeth fel hyn yn digwydd ymhob ardal ma ne botensial yn bobman e.e.Aber. Yndi mae on anodd trafeulio os da chin sdiwdant achos dwin un ohonu nw yn caerdydd ond dwin dal i drio nud bob gig da nin cal cynnig achos dyna be su raid ti neud i gael dy hun allan ond dwim yn gweld llawer o fanie erill yn gwneud llawer ymdrech i neud hyn.
Hefyd dwin cytuno ag anghytuno bod na brinder bandiau. Ma na lot o fandie allan yne ond hanner ohonu nw yn warthus.
Un peth dwi yn gweld yn drisd ydi bo ni dal i ddibynu ar y hen fois roc cymraeg e.e.Bryn Fon ayyb. Os fuo chin Maes B yn Bala un or cynilleudfaoedd mwua weles i oedd i Dafydd Iwan. Does na neb yno i lenwir bwlch.
A un peth dwi wedi sylwi yng nghaerdydd ydi- sa di Huw Stevens wedi clywed amdana ti mae o lot anoddach i gael gigs.
Rant drosodd.
Candelas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 17 Chw 2010 11:25 am

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 03 Maw 2010 1:33 pm

Yn yr oes aur (?!) 2002-2006 yn ogystal a gigio yn aml fy hun gyda Kenavo roeddw ni'n trefnu lot o gigs efo Cymdeithas yr Iaith. Felly o bosib fod yna wers fan yna - hynny yw cyfrifoldeb ar fandiau i fod yn promoters hefyd. Pan o ni'n trefnu gigs roedd o rili yn weindio fi fynny pan oedd rhaid gweithio efo bandiau oedd jest methu gweld pethau o bersbectif y trefnwyr. Lot haws gweithio efo bandiau oedd yn deall y ddau wedd i'r peth. Am ddwy flynedd roeddw ni'n gigio o leiaf dwy waith y mis ac hefyd yn trefnu gig o leiaf unwaith a mis a hynny pan oeddw ni yn y Brifysgol. Felly dyna wers arall. Mae angen i stiwdant drefnu gigs eu hunain yn lle jest disgwyl i rywun arall drefnu rhai iddyn nhw.

Y rheswm syml mod i ddim yn gwneud gymaint bellach yw fod dim amser gyda fi. Pan oeddw ni yn y Brifysgol dim ond 6 awr o ddarlithiau oedd efo fi felly roedd gweddill fy amser yn mynd ar bethau fel Kenavo, Cymdeithas yr Iaith a trefnu gigs. Bellach dwi'n gweithio ac felly ddim ag amser i fynd i llawer o gigs heb son am eu trefnu! Felly dyma fi nol eto yn dweud y dylai myfyrwyr, sydd ag amser ar eu dwylo, fynd ati i drefnu gigs eto.

Un peth bach olaf i ddweud. Yn ystod fy nghyfnod i'n trefnu gigs nehsi weld costau yn mynd trwy'r to ac doedd incwm jest ddim yn gallu dal fyny felly daeth yna bwynt lle roedd rhaid i ni fel trefnwyr fynd i'n poced ein hunain i dalu bandiau wedyn neu i dalu dynion diogelwch. Unwaith roedd rhaid i ni wneud hynny roedd yr hwyl o drefnu yn peidio rili. Fe wnaeth yna bedwar ffactor yrru costau trefnu gig fyny:

1. Llai o venues yn rhoi y lle am ddim i drefnwyr.
2. Bandit/Maes-B yn distortio y farchnad gyda bandiau yn mynnu cael eu talu canoedd i chwarae mewn venue oedd ella dim ond yn dal 100 o bobl, oherwydd fod nhw wedi dod i arfer a taliadau da Bandit/Maes-B. Maen iawn fod Bandit a Maes-B yn talu bandiau yn dda ond mae rhaid i fandiau hefyd sylweddoli fod rhywbeth an-naturiol am y taliadau hynny ac mae'r norm mewn venue bach ydy £50 i'r support a £150ish i'r headliners.
3. Diffyg dynion Sain da oedd hefyd yn rhesymol.
4. Deddf Doorman oedd yn mynnu fod rhaid talu am ddynion diogelwch hyd yn oed mewn gigs bach low-key.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan William312 » Mer 03 Maw 2010 2:32 pm

Dwi'n ddigon hen i gofio diwedd y 70au a dechrau'r 80au. Dwi'n cofio gigs rheolaidd yn y gog mewn llefydd fel

Clwb Tanybont, Caernarfon
Plas Coch, Ynys Mon
Pafiliwn Corwen - roedd rhain yn denu tual 1,000 o bobl
Dixieland, Rhyl
Neuadd JP, Bangor

Roedd safon y bandiau yn ystod y cyfnod yma yn arbennig o dda.

Roedd yna hefyd gigs rheolaidd yn y de wrth gwrs.

Dwi allan o gysylltiad, ond yr argraff dwi'n gael yw nad yw pethau wedi bod gystal o ran miwsig byw byth ers y cyfnod yma.

Beth yw argraffiadau eraill sydd yn ddigon hen i gofio?
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Candelas » Mer 03 Maw 2010 5:01 pm

ie dwin cofio lot yn son pafiliwn corwen! odd on dda i fynu ir nawdegau dwin meddwl er fyswn im yn cofio llawer. dos nem son am rwbeth rheolaidd yn yr ardal yne wan. Mond WA bala sydd unwaith y flwyddyn.
Dwin gorfod neud case study yn coleg yn fuan a dwin meddwl bo fi di ffindio pwnc iw selio fo.
Candelas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 17 Chw 2010 11:25 am

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan William312 » Mer 03 Maw 2010 11:09 pm

Candelas a ddywedodd:ie dwin cofio lot yn son pafiliwn corwen! odd on dda i fynu ir nawdegau dwin meddwl er fyswn im yn cofio llawer. dos nem son am rwbeth rheolaidd yn yr ardal yne wan. Mond WA bala sydd unwaith y flwyddyn.
Dwin gorfod neud case study yn coleg yn fuan a dwin meddwl bo fi di ffindio pwnc iw selio fo.


Ia roedd y sin roc byw yn wych. Roedd Cymdeithas yr Iaith a CAC yn trefnu llwythi ohonyn nw bryd hynny. Trist iawn deall bod cyn lleied yn digwydd yn awr.
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Angharad Clwyd » Sad 13 Maw 2010 7:54 am

Dechreuodd criw o aelode'r Gymdeithas trefnu gigs misol yng Nghaerfyrddin yn 2007 a ar y dechre bysen i'n ca'l 150+ yn dod gyda bysus yn dod o Crymych a Llandysul. Ond yn anffodus ro'dd y niferoedd yn cwmpo pob mis so ar ol rhyw 7 mis nethon ni benderfynnu dechre trefnu'r gigs bob tymor yn lle ond nethon ni golli ein venue!

Ni dal yn trefnu biti 3/4 gig y flwyddyn fel arfer yn y Quins (venue arall sydd ddim cystal a'r llall achos bod e ddim reit yng nghanol y dref a ma'r rheolwr yn idiot!) a'n ca'l tipyn yn dod ond ma fe'n anodd iawn i ni cyfro coste a wrth gwrs ni ddim yn gallu derbyn unrhyw grantie!!!Ni wrthi'n trio trefnu gig ar gyfer y pasg nawr ond rhwng coste o £100 am y lleoliad £200 oleiaf am y PA a wedyn prif fandie yn trio codi £400 i £600 ma fe'n hollol amhosibl i ni gyfro coste. Neith pobol ddim talu mwy na £5 i ddod mewn (er bod e'n costi mwy i fynd i'r Metros - clwb cheesy yn y dre'). Ma lot o fandie mas na bysen i'n lico ca'l i chware ond ma nhw just rhy ddrud. Saimod beth yw'r ateb siwrofod bod y bandie yn chware am rhatach pan nad oes posib i'rtrefnwyr dderbyn grantie. Ma ca'l pobol i ddod yn beth arall wrth gwrs. :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
Angharad Clwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 125
Ymunwyd: Maw 25 Mai 2004 8:35 am
Lleoliad: Llandysul

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan sionrhys » Sul 14 Maw 2010 5:46 pm

Dwim yn dallt pam bod bandiau cymraeg yn gofyn gymaint i chwara....
Fair enuff bod y band yn gofyn am pres petrol ag ella 'bach-on-the-side' ond yn fy marn i mae just gallu chwarae gigs a meetio/bod rownd loads o pobol cwl yn ddigon! (a gael good sesh wrth gwrs :p)
'stalwm odd loads o gigs yn gallu mynd ymlaen heb gorro talu ar y ddrws, ag odd y gigs i gyd yn llawn ac yn hwyl.
Rhithffurf defnyddiwr
sionrhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 137
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 10:47 am
Lleoliad: Pesda

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan dil » Iau 18 Maw 2010 10:54 am

dwin yn meddwl fod pethe di slofi am fod bandie yn codi gormod.
os d rwyn yn trefnu gig heb hyrwyddo ne be bynnag fo niawn does dim dyletwydd ar fand i chware am ddim nagoes.
mane gyfrifodleb ar fandie i helpu neud pethe weithio yn sicr.
ond mi oedd bandie yn codi mwy y gorffenol dwin meddwl.
gigs cynta fi drefnu yn tua '90 ymlaen odd bandie yn tua £200 am headliner.

dwim yn deall y bendith ma grantie di dod ir sin ddo.
ma hune di creu natur anrealistic weithie.fyse grant yn gret yn y dwylo iawn.
ond bobl gyda dim diddordeb na gwybodaeth am y sin syn cael chware gyda pres cyhoeddus fel arfer.
oes rwyn a dadl i hune.?

TREFWCH GIG RWAN!!!!!!!!!!!!!!!!!HEB GRANT.
o dy boced dy hun fel bo genti ddim dewis heblaw neud o weithio.
ose neb arall yn mynd i
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Meri » Iau 18 Maw 2010 1:56 pm

Un rheswm am y diffyg diddordeb yn y sin ar hyn o bryd yw'r prinder sylw mae'r byd roc Cymraeg yn gael ar S4C. Grwpiau canol y ffordd sydd ar y rhaglenni i gyd - Nodyn, Wedi Saith, Noson Lawen. Doedd Gofod ddim yn cynnwys canu roc chwaith - dim ond eitemau acwstig. Roedd rhifyn y Nadolig o Bandit yn ofnadwy o ddiflas. Mae angen rhaglen hollol ffres; sy'n apelio at bobl ifanc 18-20; sy'n cael ei darlledu ar amser call, neu mae cenhedlaeth gyfan o ffans yn mynd i gael eu colli.
Meri
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 07 Maw 2010 9:11 am

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Ar Mada » Iau 18 Maw 2010 5:24 pm

dil a ddywedodd:dwin yn meddwl fod pethe di slofi am fod bandie yn codi gormod.


Be ydi 'gormod' ?

Iawn os wyt ti'n neud cerddoriaeth on the side ac efo job arall llawn amser ac yn gallu fforddio gneud gigs yn rhad. Ond beth am wneud bywoliaeth? Ydi'r ffaith bod bandiau yn codi 'gormod' yn golygu bod dim posib bod yn gerddor i wneud bywoliaeth? A hynny yn 'wlâd y gân' ? Ac o bresbective 'grantiau', dim ond Prydain sydd angen 'grantiau' i sybsydeiddio celf, felly... heb 'grantiau', ydi hyn yn golygu bod bandiau yn gorfod gneud pethau am nesa beth i ddim o hyd? Er elw tafarndai a hyrwyddwyr?

Yn fy marn i, mae angen newid agwedd ar bob lefel. O'r cerddor i'r hyrwyddwr i'r dafarn / venue.. i'r gynulleidfa. Dwisho byw mewn gwlad ble mae swydd y cerddor / artist yn cael ei dderbyn fel unrhyw swydd arall, dim fel 'jesters' i ddiddanu pobl sy'n gwrthod talu cypl o quid i fynd mewn.

Ond.. be fysa'r sîn heb crafwyr y bwced yn de?? Dwi'm yn gwbod.... blah blah blah.,....

Hei Dil... nes i ddim cal £200 i hedleinio Morgan Lloyd yn 2009! :D
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 9 gwestai

cron