Tudalen 1 o 5

Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Mer 10 Chw 2010 1:38 am
gan sionrhys
Helo pawb,
Dwi'n braidd yn confiwsed am lle ath y sin roc cymraeg oedd o gwmpas cwpwl o flynyddoedd yn nol. Yn ystod 2004-2008 odd y sin yn llawn fandiau newydd a chyfroes gyda thalent gryf ag inygryw.
Cwestiwn i yw, lle ffwc ma atitiwd y sin ma wedi fynd? Dwin fethur gigs cyson o gwmpas cymru ar siawns i perfformio i gynylleidfa syn gwerthfawrogir miwsig..... mae'r gynulleidfa wedi newid... dio'm yr un fath.
Mae 'genyration' y pobol ifanc o 2004 wedi euddfedu a maer 'genyration' newydd or teenagers ma heb d cymryd sylw o be sydd ar gael yn y sin. Dwi isio clwad miwsig cymraeg fresh, syn cyffwrdd fy nghalon neun creu emosiwn gwahanol o leiaf.

Yn fy marn i y llywodraeth sydd ar bai y fwyaf, yn atal gigs i fynd ymlaen, hefo rheolau newydd o sut i trefnu ac yn y blaen......
Dwi gwbo dwin just 'rantio', ond dwi'n methur 'old days'... y dyddiau lle odd gigs ar gael bron i bob dwrnod yn yr ardal lleol a cymuned gryf...

duw........

Angan dechrau eto da 'ni?

Sion Rhys xxx

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 10:54 am
gan Gorwel Roberts
Mae o'n frustrating yntydi - dyna sy'n tueddu i ddigwydd yn yr SRG, oherwydd tydi hi ddim yn broffesiynol mae pethau'n mynd ac yn dod fel tonnau. Mae gigs yn dibynnu ar frwdfrydedd unigolion yn aml iawn. Roedd Cymdeithas yr Iaith yn wych ers talwm am drefnu gigs ond mae hynna i'w weld wedi diflannu. Ond mi ddaw cyffro eto...

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 1:45 pm
gan dil
di pethe ddim yn hollol farwedd ond dwin dallt be tin ddeud.
mane gigs cyson yn digwydd yn caernarfon.
y problem mwya' di ffendio bandie i chware. un peth syn gwneud hin annodd ydi neith lot o fandie sy a myfyrwyr yn y band ddim teithio i nunlle yn ystod tymor coleg,yn arbenig myfyrwyr caerdydd.dim ond pan ma nhw adre o coleg ma nhwn fodlon neud gig.ma hun yn ffeithiol, yn hytrach na beirniadeth o fandie.
ond mi oeddwn in edmygu agwedd band fel genod droog,kentucky a frizbiee am fod nhw di teithio lot, heb fudd arianol yn aml. dymar agwedd syn mynd i greu sin lewyrchus.rhaid i bobl roi i hunen allan i neud pethe weithio.

dwin awyddus i riw fath o 'curcit' cael i ffurfio trwy gymru.mane fanion ond ma anghen bandie atrefnwyr i neud o weithio.

dwi ddim yn deall y bendith ma MAES-B di gynnig ir sin chwaith.man annodd iawn i neb gynnal gig yn ystod y steddfod.
alle fod on rhoi llwyfan mawr i fandie yr SRG syn beth da.ond di hune ddim osgogi dim wedyn o be dwin weld.a gan fod pres cyhoeddus yn cael i wario arna fo fe ddylie fod o fydd ir SRG dylie.

dwin creu fod on eitha hawdd gneud pethe weithio.ma jyst anghen brwdfrydedd a chydig o help.
ar hun o bryd dwim yn gweld fod dim herlp argael.mi ellith y SRG weithio yn lot well ond dydi neb sy a grym yn dangos dim diddordeb mewn sortio fo.felly ma fynu i ni dydi.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 12 Chw 2010 9:59 am
gan Cardi Bach
:lol:
Fi'n siwr fod yna edefyn arall ar y maes yma o circa 2004/2005 yn dweud yn UNION yr un peth - fod y sin roc yn fywiog ar ddiwedd y 90au a dechrau'r 00au ond erbyn 2004/5 fod e'n shait a dim diddordeb...

mae'r bandiau hynny sydd yn weithgar a bywiog ar y foment, a'r bobl ifanc hynny sydd yn eu dilyn, yn siwr o anghytuno a thi heddiw, ond ymhen 5 mlynedd pan fydd y mwyafrif o'r bandiau yma wedi chwalu a'r ffans yn dechrau ar swyddi llawn amser, bydd yna ambell un yn dweud yn union yr un peth eto.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 12 Chw 2010 12:16 pm
gan dil
mane ddefnydd i drafod does.
hudnoed os dio di cal i drafod yn barod.
alle neith o helpu

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Sul 14 Chw 2010 2:08 pm
gan Cardi Bach
dil a ddywedodd:mane ddefnydd i drafod does.
hudnoed os dio di cal i drafod yn barod.
alle neith o helpu


Oes, mae yna ddefndydd iw drafod - a trafoder bant, ar bob cyfri!
Ond nid dyna'r pwynt o'n i'n ei wneud.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Sul 14 Chw 2010 7:53 pm
gan dil
ok te.
bw di dy bwynt di de?
fod pobl yn romatus am y gorffenol o hyd?
dwin meddwl fod ne lot mwy iddo fo na hune.
ne dwin camddallt be tin trio ddeud?

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Sul 14 Chw 2010 8:50 pm
gan Ar Mada
Ambell fyfyrdod ar y mater: (dim trefn)

* Angen mwy o fandiau cyffroes i greu cynhwrf a hedleinio. Tydi rhain ddim yn dod i'r wyneb oherwydd nawdd a grantiau, mae nhw'n datblygu'n organic gyda llwyth o angerdd.

* Tafarndai - Mae na rhai da... ond mae na fwy o rhai sy'n meddwl dim am awyrglych a lletygarwch i'r bandiau / artistiaid. e.e. gofod perfformio syml (gyda goleuadau a PA) sy'n dyblu fyny fel lle eistedd / bwyta ar adegau eraill. Dylsa cerddoriaeth byw fod yn rhan anatod o fywyd tafarn!

* Hyrwyddwyr / Trefnwyr - Rhai da allan yna... ond lot sydd yn deall dim am be dwi'n sôn uchod gyda awyrgylch ac ati.

* Red Tape, Cynghorau, Heddlu a Health and Safety - Canser gwyliau bychain! Tydy nhw'm eisiau gwybod, tydy nhw'm yn cyfathrebu efo'i gilydd ac yn sydyn cau drysau ein diwylliant.

* PRS - chydig o fwgan ar y funud. Ewch i http://www.ygynghrair.com os da chi'm yn gwbod am be dwi'n sôn.

* Radio Cymru yn chwarae 'recording artists' sy'n gwneud dim i ddatblygu'r sîn byw. Digon o brês i recordio mewn stiwido shit hot... ond gneud dim byd wedyn, fysa'r amser air-play yn llawer mwy effeithlon gyda bandiau / artistiaid go iawn yn ei lenwi.... y bobl sydd angen yr air-play ac angen y freindal i dalu am stiwido shit hot!

* Angen Ceri C nôl ar lwyfan!

.......

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Llun 15 Chw 2010 2:55 am
gan sionrhys
O ni'n siarad fo 'veteran' or sin roc cymraeg cwpwl o wsnosa'n 'dol.... Odd o'n meddwl bod y problemau hefor heddlu ar llywodraeth yn conspirasy fawr... Bod y llywodraeth ddim eisiau poeni am problemau sa'n gallu digwydd wrth trefnu a gadael gigs i fynd ymlaen i atal costau heddlu a gwaith papur ag i cadw pobol off y strydoedd ac i ffwrdd or pubs, so ma nhwn just peidio adael gigs mynd ymlaen neu'n rhoi restrictions am pryd ddylsa nhw stopio chwarae (syn gallu bod yn uffar o fuan!!!). 'Could be a lie', ond man swnion pretty realistic i fod yn honest.....

Dwnim?

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Llun 15 Chw 2010 10:13 am
gan Gorwel Roberts
dil a ddywedodd:ok te.
bw di dy bwynt di de?
fod pobl yn romatus am y gorffenol o hyd?
dwin meddwl fod ne lot mwy iddo fo na hune.
ne dwin camddallt be tin trio ddeud?


Dwi'n meddwl mai pwynt Cardi Bach oedd bod yr SRG yn tueddu i fynd i fyny ac i lawr