Lle ma'r sin di fynd pawb?

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Candelas » Iau 25 Maw 2010 3:11 pm

a
Golygwyd diwethaf gan Candelas ar Iau 25 Maw 2010 3:13 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Candelas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 17 Chw 2010 11:25 am

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Candelas » Iau 25 Maw 2010 3:13 pm

Dwi'n cytuno ei fod on anoddach cael gigs, ond ddylsa huna ddim fod yn esgus i rhoi gora ar drio gal rhei. Os di bandiau yn gal help gan enwau mawr fel huw Stevens, di hunam yn golygu eu bo nhw'n wych o gwbl. Ma lot or bandiau sy'n cael y mwyaf o sylw dyddia ma yn rubbish, ac er eu bo nhw ar y radio bod dau funud does neb rili yn troi fyny i gigs nhw.
Cafodd y band Y Niwl sylw cyn idda nhw chwara un nodyn hyd yn oed, ac cael eu ystyried fel 'gwych' yn syth. Lwcus i nhw, ma nhw'n amazing, felly enghraifft gwael.

Ond os da chi'n fand sy'n haeddu gal mwy o sylw na da chi'n gal, ewch ati i cael stwff eich hunan. GOFYNWCH i chwara mewn gigs mawr yn lle gobeithio i pobl ofyn wrtha chi. Ma na lot o fandiau gwych cymraeg newydd, ond tydi nhw'm efo'r gyts i rhoi eu hunan allan yna! Yn lle ma nhw'n aros yn dawel yn disgwl i pobl su 'rioed di clwad amdana nhw ofyn i nhw chwara mewn gigs. Os da chi'n byw yn y gogledd, neu ddim ofn teithio yn bell rownd Cymru yn lle jyst chwara mewn milltir sgwar, ma na ddigon o gigs allan fana i bandiau newydd er mwyn cael sylw.

Os da chi isho Huw Stevens neu enw mawr arall i'r SRG licio chi, da chi angen neud yn siwr ei fod o'n gwbod amdana chi! A gigio mor aml a sy'n bosib ydi'r ffordd gora i neud huna.


geiriau doeth sionyn, dwin cytuno yn llwyr, ma ne demos quality ar y ffordd pasg ma a da nin paratoi at yr ha ma ond da ni dal yn cael traffeth yn caerdydd, ond gobeithio fedrw ni dorri trwadd wth harrahso fo demos newydd. jysd pan tin son am fynd yn bell, sa os ne chydig o bres yn involved man mynd yn annoddach. er bo fin gwbod na dyna be su raid ti neud i gal y gigs. Maen boen bod yn sdiwdant weithie!
Candelas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 17 Chw 2010 11:25 am

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Sionyn » Iau 25 Maw 2010 5:47 pm

Candelas a ddywedodd:
geiriau doeth sionyn, dwin cytuno yn llwyr, ma ne demos quality ar y ffordd pasg ma a da nin paratoi at yr ha ma ond da ni dal yn cael traffeth yn caerdydd, ond gobeithio fedrw ni dorri trwadd wth harrahso fo demos newydd. jysd pan tin son am fynd yn bell, sa os ne chydig o bres yn involved man mynd yn annoddach. er bo fin gwbod na dyna be su raid ti neud i gal y gigs. Maen boen bod yn sdiwdant weithie!


Gofynwch i chwarae yn Clwb Ifor neu'r fuwch goch! digon o gigs yn mynd mlaen yn fana a ddigon o gynulleidfa yn dod, neu ma'r buffalo bar yn lle da. Digon o lefydd yn Gaerdydd os da chi'n gwbod lle i ofyn am gigs, yn lle'r llefydd amlwg i gyd. Os genna chi awydd cymryd risk i neud pres, trefnwch gig eich hunan mewn pub lleol!
Wrth fod mewn band fy hun efo aelod yn prifysgol manceinion, dwi'n dallt y trafferth o ddim pres i teithio i gigs pell. Da ni di gorfod teithio o Gaernarfon i Clwb Ifor Bach am £50, a odd hunam yn hyd yn oed talu am y costiau teithio o Gaernarfon, heb son am y ticedi tren i gal ein aelod o Manceinion ( ac y booze! ).
Dwin cydymdeimlo gyda chi candelas, ond oleia ma'r pasg yn dod lle man gyfle i chi HAMRO gigio i codi pres i'r band i allu teithio yn bell. Daliwch ati bois! edrych mlaen i clwad y demos newydd ma.

Welai chi yn y Morgan Lloyd fyd.
Llosga dy fwstash y diawl.
Sionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Maw 2009 8:36 pm

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan tomsyn » Iau 25 Maw 2010 7:44 pm

Sionyn a ddywedodd:
Candelas a ddywedodd:
geiriau doeth sionyn, dwin cytuno yn llwyr, ma ne demos quality ar y ffordd pasg ma a da nin paratoi at yr ha ma ond da ni dal yn cael traffeth yn caerdydd, ond gobeithio fedrw ni dorri trwadd wth harrahso fo demos newydd. jysd pan tin son am fynd yn bell, sa os ne chydig o bres yn involved man mynd yn annoddach. er bo fin gwbod na dyna be su raid ti neud i gal y gigs. Maen boen bod yn sdiwdant weithie!


Gofynwch i chwarae yn Clwb Ifor neu'r fuwch goch! digon o gigs yn mynd mlaen yn fana a ddigon o gynulleidfa yn dod, neu ma'r buffalo bar yn lle da. Digon o lefydd yn Gaerdydd os da chi'n gwbod lle i ofyn am gigs, yn lle'r llefydd amlwg i gyd. Os genna chi awydd cymryd risk i neud pres, trefnwch gig eich hunan mewn pub lleol!
.

Sionyn bach. Digon hawdd ydy gofyn i bobl am gigs ond 85% o'r amser nei di byth glywad dim yn ol. Bach yn annifyr i fod yn onast ond fala ma bywyd.
Mor ddefnyddiol a condom yn y Vatican City
tomsyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Iau 06 Maw 2008 3:07 pm

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Sionyn » Iau 25 Maw 2010 8:25 pm

Pwynt teg Tomsyn.
Llosga dy fwstash y diawl.
Sionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 11 Maw 2009 8:36 pm

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Copperfest » Maw 30 Maw 2010 7:06 pm

Dan ni yn Amlwch wedi trefnu wyl mynediad am ddim. Blwyddyn dwetha y lein-up oedd Midge Ure, Bryn Fon, Meic Stevens, Race Horses, Celt, Elin Fflur, Y Profiad, John ac Alun a llawer mwy ac y d gwbwl lot am ddim.

Gwaith anodd i codi arian round y flwyddyn ond mae o yn posib

www.gwylgopr.co.uk
Gŵyl Gopr Amlwch - Amlwch Copperfest
http://www.gwylgopr.co.uk - http://www.copperfest.co.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Copperfest
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:55 pm

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

Postiogan Ramirez » Sad 10 Ebr 2010 1:38 pm

sionrhys a ddywedodd:Dwim yn dallt pam bod bandiau cymraeg yn gofyn gymaint i chwara....
Fair enuff bod y band yn gofyn am pres petrol ag ella 'bach-on-the-side' ond yn fy marn i mae just gallu chwarae gigs a meetio/bod rownd loads o pobol cwl yn ddigon! (a gael good sesh wrth gwrs :p)


Mi gei di hynna jysd wrth fynd i'r dafarn beth bynnag, heb chwarae gig. Y rheswm mae pobol yn codi pres i chwarae ydi am ei fod o'n costio i allu chwarae yn y lle cynta, mewn offer, amser a petrol etc. Mae 'na rai sy'n trio gwneud bywoliaeth o'r peth, felly duw a wyr pa mor ddigalon ydi o iddyn nhw glywed pobol yn honni y dyliai artistiaid ei wneud o 'am laff' yn unig. Dwi'n lwcus achos dwi'n gweithio llawn amser ac yn cael amser i wneud cerddoriaeth, ond mae hynny'n golygu nad ydwi'n medru bod mor gynhyrchiol a gweithgar ac y byswn i'n lecio. Dwi dal yn ei wneud am fwy na jysd 'hwyl', fodd bynnag, a dwi ddim yn mynd i yrru 3 neu 4 awr bob ffordd ar benwythnosau ar golled jysd er mwyn bod 'rownd pobol cwl'.

Fel dwi wedi ei ddweud, mae gigs am ddim yn gret os ydi rhywun yn llwyddo i'w gwneud nhw ac yn cadw pawb yn hapus, ond dwi hefyd yn teimlo y byddai'n beth peryg i hynny ddod yn norm. Mae pawb yn disgwyl cerddoriaeth am ddim bellach, a dydi hynny ddim yn 'sustainable'. Os nad ydi pobol yn fodlon talu, yna mi fydd pobol yn stopio gigio achos mi fydd o'n amhosib i'w wneud. Os nad ydi pobol yn talu am eu CDs / MP3s, mi fydd pobol yn stopio eu rhyddhau nhw achos ei fod o'n amhosib i'w wneud. Ella ei fod o'n swnio'n asgell-dde ddiawledig i'w ddweud, ond yn syml - os na ti'n gallu ei fforddio fo, ti ddim yn ei gael. Mae hynna'n wir am bob dim arall, yn cynnwys agweddau eraill o'r celfyddydau, ond am rhyw reswm dydi pobol ddim yn derbyn hyn am gerddoriaeth.


Hedd Gwynfor a ddywedodd:Pam ddim rhoi ffi sylfaenol i'r... cwmni PA... am y gig, gyda'r ffi yn codi yn ddibynnol ar y nifer o bobl sy'n dod i'r gig.


Gwasanaeth fel unrhyw gwmni arall mae'r cwmni PA yn ei gynnig ac y mae ganddyn nhw bris, a dyna fo. Mi fysa'n hollol anheg ceisio newid eu ffi ar y niferoedd sy'n mynychu, achos nid gwaith y cwmni sain ydi denu pobl yno. Fysa ti ddim yn talu'r dyn trwsio peiriant golchi yn ddibynnol ar faint o bobl sy'n defnyddio'r peiriant, yn na fysat? Nac yn newid cyflog staff bar yn ddibynnol ar faint o bobl sy'n yfed yno ar un noson benodol.
Mi fedrai dderbyn y bysai trafod cynllun talu o'r fath gyda'r artist yn gallu bod yn dderbyniol, ond ddim o gwbwl gyda chwmniau sain / goleuo / diogelwch etc.


Aled Wyn Hughes
Pwllheli
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron