gan Sionyn » Maw 02 Maw 2010 10:37 pm
Yn fy marn i y problem mwya efo'r SRG ydi'r diffyg diddordeb yn y cerddoriaeth. Allwch drefnu gig gyda line-up gwych ac ei hysbysebu yn dda iawn, ond yn y diwedd ma'r pobl sydd yn y gynulleidfa mond yna i feddwi.
Yn Gaernarfon, er bod yna gigs yn digwydd yna pob wsos, yr un pobl su'n tueddu i troi fyny i pob un.
Os ma na ddewis rhwng gig gwych sy'n costio tua £6, neu gig diflas am ddim, mae rhan fwyaf am ddewis yr un am ddim, oherwydd tydi nhw ddim isho gwario pres cwrw i fynd i fewn i'r bar/tafarn.
Mae yna ddigon o fandiau yn chwilio am gigs, felly tydi diffyg bandiau ddim yn broblem, a mae yna ddigon o feniws yn trefnu gigs pob wsos/mis, felly yr unig beth su'n stopio gigs da rhag digwydd ydi'r ofn o beidio neud elw wrth ofyn am £6 cyn mynd ir gig, a dyma sy'n stopio'r SRG rhag gwella.
Yn fy marn i de.
Llosga dy fwstash y diawl.