Tudalen 2 o 5

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Llun 15 Chw 2010 11:06 am
gan dil
ma hune yn bwynt teg.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Mer 24 Chw 2010 3:39 pm
gan tomsyn
dwi'n meddwl bod yna sin ok yn rhai ardaloedd ond dim llawer yn digwydd mewn llefydd eraill. E.e. Nos wener dwethaf roedd na 4 gig mewn 4 tafarn gwahanol yn Nghaernarfon (Celt yn Twthill Vaults, Y Bandana yn yr Anglesey, Plant Duw yn y Morgan Lloyd, a rhywun arall (ddim yn cofio'r enw) yn Pendeich). Ddim yn bad i fod yn onast nadi.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Mer 24 Chw 2010 3:56 pm
gan dil
diom yn annodd i weithio allan nachdi.
trefu gigs a mane sin yn cychwyn.
ma caernarfonmor brysur fo gigs ma diffyg bandie di broblem, dim ddiffyg gigsa cynilleidfa.
ma feniws yn neud pres allan or gigs.dyna pam ma nhwn digwydd.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Mer 24 Chw 2010 11:52 pm
gan Ar Mada
tomsyn a ddywedodd:sin ok yn rhai ardaloedd ond dim llawer yn digwydd mewn llefydd eraill


Gwir. Mae deinameg rwla fel Caernarfon yn caniatau i sîn Gymraeg ddigwydd: deinameg y dre, economi, cyfryngau, agos i Fangor (poblogaeth) etc etc..... lle mae rwla fel e.e. Blaenau yn chael hi'n anoddach tynnu bobl i'r gigs. Mae'r Cell yn cael hwyl ar neud Cinema'r Byd (ffilm / bwyd / music) bob mis, ond heblaw am hynny... llond dwrn o fobl gei di mewn gigs ym Mlaenau er faint mor galed ti'n hyrwyddo'n lleol. + tydi bobl ddim am drafeilio sa bo na fand da iawn yn chwarae.

Ar y llaw arall... gei di sîn hyfyw yn rwla fel Ring, Llanfrothen sy yng nghefn gwlad....

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Iau 25 Chw 2010 12:32 am
gan tomsyn
Cytuno gyda ti Ar Mada.
Dwi'n cael hi'n anodd deallt pam bod pobl ddim yn mynd i gigs gymaint dyddiau yma. Pan dwi adref o'r brifysgol yng Nghaernarfon sw ni'n mynd i gig Cymraeg pob wythnos (ella bod fi'n lwcus o gael y cyfle i fynd i'r gigs am-ddim yma yn y tafarndai lleol).
Dwi'm yn gweld be di'r drwg i dafarnai gynnal gigs pob wythnos ble mae mynediad am-ddim a bod y band yn cael ei dalu am y pres sy'n cael ei neud tu ol i'r bar. Sw ni ddim yn meddwl y byddai tafarndai yn neud colled o hun (ella bod fi'n anghywir cofiwch). Ond sw ni'n deud mai dyma'r rheswm pam fod gigs Caernarfon yn llwyddiannus ac efallai hefyd gigs Ring Llanfrothan.
Aml iawn dwi di meddwl mynd i gig a wedyn sylwi bod pris mynediad yn rhyw £6 a wedyn newid fy meddwl a peidio mynd.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Chw 2010 9:49 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
ydi chwe phunt yn gymaint a hunna? mewn difri' calon? dwi'n gwbod bod o'n ddrud mynd i gigs yn aml, ond ti'n gorfod talu am yr hyn ti'n 'i weld/glwad, dwyt? yr un faint 'sa chdi'n dalu am fynd i weld ffilm, mwy fyth i fynd i'r theatr ar y foment (stori arall 'di honno).
ti'n goro' talu dwybunt i fynd i blydi medi a cofi cachu dyddia yma, am ddim byd 'mond y bownsars afiach 'na a'r un hen gerddoriaeth ddiflas yn y cefndir...!
cytuno bod caernarfon yn ecseiting rwan, ond ma' pwynt dil yn iawn - yr un hen fandia' ydyn nhw, a tydi tafarndai ddim yn 'i 'neud o allan o fod yn bobol neis, ma' nhw'n gneud elw da ar y bar ar nosweithia' o'r fath. dwi wir yn meddwl bod 'na brinder bandia' ar y foment - oedd hi 'run fath yn union ddeng mlynadd yn ol, pan o'n i'n 'rysgol, mi ddaw 'na fywyd eto... mae o jyst yn cymyd lot o frwdfrydedd... neu wbath...

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Llun 01 Maw 2010 10:54 am
gan crazymountainpeople
Helo,
Nes i gwylio Can I Cymru neithiwr meddwl fod yna bandiau/artistiad da arnodd am change!, ond oedd ai yn siomedig iawn hefo rhai artistiad wedi newid ei cerddoriaeth i trio enill, beth roedd o yn mor "cheesy". Mond dau allan wyth roedd yn actuly yn dda yn fyn barn i, dwmbo syt oedd Endaf Emlyn gallu callsio SRG ac Can I Gymru, os mae hyna yn wir mae SRG mewn **** o trwbwl ar y funud.

Geth

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Llun 01 Maw 2010 6:56 pm
gan tomsyn
Cytuno efo'r busnes talu i fynd i mewn i Cofi Roc tracsiwt gwyrdd, a dyna'r rheswm bod fi ddim yn mynd yna (heblaw ar nos wenar lle mae o am ddim ;p), dio just ddim werth y pres fel arall. Ond dwi'n deallt dy bwynt yn iawn.
Ond dwi'm yn siwr efo'r busnes prinder bandiau...dwi'n nabod digon o fandiau a fysa'n hoffi cael gigs ond sydd heb gael y cyfle eto.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Llun 01 Maw 2010 11:24 pm
gan Ramirez
tomsyn a ddywedodd: Dwi'm yn gweld be di'r drwg i dafarnai gynnal gigs pob wythnos ble mae mynediad am-ddim a bod y band yn cael ei dalu am y pres sy'n cael ei neud tu ol i'r bar.


Achos yn aml iawn nid y dafarn / bar ei hun sy'n trefnu.

tomsyn a ddywedodd:
Aml iawn dwi di meddwl mynd i gig a wedyn sylwi bod pris mynediad yn rhyw £6 a wedyn newid fy meddwl a peidio mynd.


Yn ddigon aml mi gei di weld 3 band am dy £6, sy'n aruthrol o rhad am oriau o adloniant. Mae pawb wedi mynd i ddisgwyl cerddoriaeth i gyd am ddim - downloads am ddim, gigs am ddim. Mi oedd pobl yn cwyno fod £25 yn ddrud am diced Sesiwn Fawr er mwyn y nefoedd! £25 am dwni-ddim-faint o artistiaid drwy'r dydd, a rheini o bob cwr o'r byd! Tydi cerddoriaeth a digwyddiadau ddim yn creu na threfnu eu hunain, a gorau po gynta i bobl sylwi ei fod o'n costio, ac os ydy nhw isho fo, mi fydd rhaid talu.

Pan mae'n bosib trefnu rhywbeth am ddim, yna gret, cyn belled a fod pawb ddim yn disgwyl i bob dim fod felly. A phan mae rhywun yn cwyno am orfod talu £6, tydi pethau ddim yn edrych yn rhy dda.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2010 10:37 pm
gan Sionyn
Yn fy marn i y problem mwya efo'r SRG ydi'r diffyg diddordeb yn y cerddoriaeth. Allwch drefnu gig gyda line-up gwych ac ei hysbysebu yn dda iawn, ond yn y diwedd ma'r pobl sydd yn y gynulleidfa mond yna i feddwi.

Yn Gaernarfon, er bod yna gigs yn digwydd yna pob wsos, yr un pobl su'n tueddu i troi fyny i pob un.
Os ma na ddewis rhwng gig gwych sy'n costio tua £6, neu gig diflas am ddim, mae rhan fwyaf am ddewis yr un am ddim, oherwydd tydi nhw ddim isho gwario pres cwrw i fynd i fewn i'r bar/tafarn.

Mae yna ddigon o fandiau yn chwilio am gigs, felly tydi diffyg bandiau ddim yn broblem, a mae yna ddigon o feniws yn trefnu gigs pob wsos/mis, felly yr unig beth su'n stopio gigs da rhag digwydd ydi'r ofn o beidio neud elw wrth ofyn am £6 cyn mynd ir gig, a dyma sy'n stopio'r SRG rhag gwella.

Yn fy marn i de.