Helo dwin newydd i maes e felly sori os dwin neud rhywbeth oi le.
Dwin cytuno efo Sionyn achos dwi di weld on diwgydd yn ardal fi. Os dion cosdio wth y drws ma pobol yn meddwl dwywaith cyn mynd i fewn achos bod on tynnu i ffwrdd oi pres cwrw nw a dwin teimlo fel bod on gwaethygu bob blwyddyn fel mae prishe cwrwn mynd fynu. Ma agwedd pobl at fiwsig yn newid dwin meddwl, ma pobl yn tueddu i fynd i glwbiau fwy i wrando ar caneuon saesneg 'clybi' er bo chin gallu deud bo hanner ohonu nw ddim yn hoff or miwsig ond dyna lle mar 'pobl i gyd' ar peth ydi mar pobl yn mynd yn nyts am y caneuon rock o hyd yn diwedd.
DWin cytuno fod sin caernarfon yn dda a dwin diolch ir pobl sun trefnu fo ond dyle bod na rwbeth fel hyn yn digwydd ymhob ardal ma ne botensial yn bobman e.e.Aber. Yndi mae on anodd trafeulio os da chin sdiwdant achos dwin un ohonu nw yn caerdydd ond dwin dal i drio nud bob gig da nin cal cynnig achos dyna be su raid ti neud i gael dy hun allan ond dwim yn gweld llawer o fanie erill yn gwneud llawer ymdrech i neud hyn.
Hefyd dwin cytuno ag anghytuno bod na brinder bandiau. Ma na lot o fandie allan yne ond hanner ohonu nw yn warthus.
Un peth dwi yn gweld yn drisd ydi bo ni dal i ddibynu ar y hen fois roc cymraeg e.e.Bryn Fon ayyb. Os fuo chin Maes B yn Bala un or cynilleudfaoedd mwua weles i oedd i Dafydd Iwan. Does na neb yno i lenwir bwlch.
A un peth dwi wedi sylwi yng nghaerdydd ydi- sa di Huw Stevens wedi clywed amdana ti mae o lot anoddach i gael gigs.
Rant drosodd.