Tudalen 4 o 5

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Iau 18 Maw 2010 11:16 pm
gan dil
Ar Mada a ddywedodd:
dil a ddywedodd:dwin yn meddwl fod pethe di slofi am fod bandie yn codi gormod.


Be ydi 'gormod' ?

Iawn os wyt ti'n neud cerddoriaeth on the side ac efo job arall llawn amser ac yn gallu fforddio gneud gigs yn rhad. Ond beth am wneud bywoliaeth? Ydi'r ffaith bod bandiau yn codi 'gormod' yn golygu bod dim posib bod yn gerddor i wneud bywoliaeth? A hynny yn 'wlâd y gân' ? Ac o bresbective 'grantiau', dim ond Prydain sydd angen 'grantiau' i sybsydeiddio celf, felly... heb 'grantiau', ydi hyn yn golygu bod bandiau yn gorfod gneud pethau am nesa beth i ddim o hyd? Er elw tafarndai a hyrwyddwyr?

Yn fy marn i, mae angen newid agwedd ar bob lefel. O'r cerddor i'r hyrwyddwr i'r dafarn / venue.. i'r gynulleidfa. Dwisho byw mewn gwlad ble mae swydd y cerddor / artist yn cael ei dderbyn fel unrhyw swydd arall, dim fel 'jesters' i ddiddanu pobl sy'n gwrthod talu cypl o quid i fynd mewn.

Ond.. be fysa'r sîn heb crafwyr y bwced yn de?? Dwi'm yn gwbod.... blah blah blah.,....

Hei Dil... nes i ddim cal £200 i hedleinio Morgan Lloyd yn 2009! :D

ti di darllen be ma bobl erill di ddeud.
deud dwi na dim bai pris bandie di gwraidd fod y sin yn wan.
dwim yn dallt dy bwynt o gwbwl rili ond dwi yn dallt bo tin bod yn bersonol.
ac os ti ddim yn hapus i chware gig am llai na £200 jyst deud na.
dio jyst ddim yn cwl sgwenu fo enw ffug a bod yn bersonol gyda rwyn syn rhoi i enw iawn.
so be ti am neud a be tin ddeud syn bod efo be dwin neud.?
dwin gwbod bo fi arna bud i neb.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 9:32 am
gan dil
Ar Mada a ddywedodd:
dil a ddywedodd:dwin yn meddwl fod pethe di slofi am fod bandie yn codi gormod.

:D

o sbio yn ol ar hwn dfwin deallt am ti di cam deall be onin ddeud.
'dwi ddim(dwim) yn meddwl fod pethe di slofi am fod bandie yn codi gormod' o nin trio ddeud.
ma rwyn cynt yn meddwl fod bandie yn codi gormod yn amlwg.
o ran y morgan dwin gweithio rownd be dwin gal i wario.
dwin gweld fod anghen hadyn er mwyn tyfu nol i sin fiwiog.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 11:52 am
gan Ar Mada
dil a ddywedodd:dio jyst ddim yn cwl sgwenu fo enw ffug a bod yn bersonol gyda rwyn syn rhoi i enw iawn.


Ffacinel... lle di fama? Ysgol gynradd? :lol:

dil a ddywedodd:nd dwi yn dallt bo tin bod yn bersonol.


Dil callia.. dwi'n deall dy bwynt di, a mae gen i barch i dy waith. Mae be ti'n neud yn amazing, ond tydy hynny ddim yn reswm i beidio rhoi fy marn drosodd.

Unig beth oni neud oedd ymateb i hyn:
dil a ddywedodd:gigs cynta fi drefnu yn tua '90 ymlaen odd bandie yn tua £200 am headliner.


Oni gweld o braidd yn rhyfadd bod gigs yn y 90'au yn £200 am hedleinar... a fina di chwara M.LLoyd llynedd (acwstic) am lot llai na £200. Ond.. nes i gynnig neud o am chydig dros £200 gyda band llawn... doeddach chi methu fforddio. Ymhob pyb arall dwi'n chwarae, mae nhw'n gallu fforddio fy minimum fee am fand llawn, dyna pam mae'r minimum fee ma yn bodoli, am ryw reswm.. dim felna mae hi yn eich achos chi yn M.Lloyd.

dil a ddywedodd:dwim yn dallt dy bwynt o gwbwl rili


Pa bwynt?

Un pwynt - Os nad wyt ti troelli yn y byd pop Eingl-Americanaidd, sgen ti'm llawer o hygrededd fel artist / cerddor ym Mhrydain (yn gyffredinol lly). Mewn gwledydd eraill, mae swydd cerddor yr un mor bwysig a swydd gwleidydd, mae hyd yn oed swydd waiter yn broffesiynol. Mae cerddorion yn cael hygrededd, lletygarwch a pres da am eu gwaith heb orfod bod yn 'pop'logaidd. Felly, gan ystyried hyn, pa obaith sy' na i greu yr un agwedd yng Nghymru? Grantiau? Os tydy band llawn profiadol (wrthi ers 18 mlynedd) methu neud gig yn Gaernarfon am chydig dros £200.... mae na broblem yn rhywle! A dim ymosodiad 'personol' ydy hynny... jyst enghraifft.

dil a ddywedodd:TREFWCH GIG RWAN!!!!!!!!!!!!!!!!!HEB GRANT.
o dy boced dy hun fel bo genti ddim dewis heblaw neud o weithio.


Dim yn trio bod yn hero dîn na'm byd de... ond wedi neud canoed o gigs elusen, gigs rhad fel ffafrs er mwyn cynnal y sîn, a trefnu teithiau theatr o boced fy hun = colled, ond y boi PA yn gneud pres da! Diolch i Dduw bod theatrau yn gneud 70 / 30 split! OK... os oes cyfla i neud few bob yn Steddfod / gigs undeb... mi wnai... cos heini ydi'r unig 'big payers' yn yr SRG.

Pwynt arall.. pa obaith sy na os nad ydy cerddorion profiadol yn cael £$€ am gigs? Rhowch actor a cerddor ochr yn ochr yng Nghymru... pa un sydd efo'r banc account mwyaf? Pa un sydd efo'r Hygrededd fwyaf? Pa un sydd cael cynnig gwaith mwyaf?

Ar Mada aka:Gai Toms afka: Mim Twm Llai bfka: Anweledig

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 1:58 pm
gan dil
nes i sgwenu neges hir ac aruo fynd ar goll pan nes i bwyso Anfon!
prif bwynt oedd:
ai off i gallio.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 2:11 pm
gan Ar Mada
Nes i huna fyd... a gorfod sgwennu'r holl beth eto... a anghofio rhai pwyntiau yn yr ail un.....

eniwe... mae'n iach dadla. Hefyd.. dwi teimlo reit 'chwerw' am rhai agweddau o'r sîn.. a falla bod hynny'n dod drosodd yn y ffordd dwi'n sgwennu...

parch!

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 2:25 pm
gan dil
ti awydd trefnu taith.?genai syniad.

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 7:18 pm
gan Hedd Gwynfor
Pam ddim rhoi ffi sylfaenol i'r band a'r cwmni PA (a'r feniw) am y gig, gyda'r ffi yn codi yn ddibynnol ar y nifer o bobl sy'n dod i'r gig. Byddai hynny'n golygu bod yr hyrwyddwr, y band, y cwmni PA a'r feniw oll yn gwneud yr ymdrech mwyaf i gael cymaint a phosibl i ddod i'r gig, a byddai pawb ar eu hennill. Ond sawl band a chwmni PA fyddai'n barod i ddod i drefniant o'r fath gyda'r trefnwyr?

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Maw 23 Maw 2010 4:05 pm
gan Ar Mada
dil a ddywedodd:ti awydd trefnu taith.?genai syniad.


Nes i yrru NB i ti...

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Maw 23 Maw 2010 10:22 pm
gan GruffuddJOS
Candelas a ddywedodd:A un peth dwi wedi sylwi yng nghaerdydd ydi- sa di Huw Stevens wedi clywed amdana ti mae o lot anoddach i gael gigs.
Rant drosodd.

Clywch, Clywch!!

Re: Lle ma'r sin di fynd pawb?

PostioPostiwyd: Mer 24 Maw 2010 10:45 pm
gan Sionyn
GruffuddJOS a ddywedodd:
Candelas a ddywedodd:A un peth dwi wedi sylwi yng nghaerdydd ydi- sa di Huw Stevens wedi clywed amdana ti mae o lot anoddach i gael gigs.
Rant drosodd.

Clywch, Clywch!!


Dwi'n cytuno ei fod on anoddach cael gigs, ond ddylsa huna ddim fod yn esgus i rhoi gora ar drio gal rhei. Os di bandiau yn gal help gan enwau mawr fel huw Stevens, di hunam yn golygu eu bo nhw'n wych o gwbl. Ma lot or bandiau sy'n cael y mwyaf o sylw dyddia ma yn rubbish, ac er eu bo nhw ar y radio bod dau funud does neb rili yn troi fyny i gigs nhw.
Cafodd y band Y Niwl sylw cyn idda nhw chwara un nodyn hyd yn oed, ac cael eu ystyried fel 'gwych' yn syth. Lwcus i nhw, ma nhw'n amazing, felly enghraifft gwael.

Ond os da chi'n fand sy'n haeddu gal mwy o sylw na da chi'n gal, ewch ati i cael stwff eich hunan. GOFYNWCH i chwara mewn gigs mawr yn lle gobeithio i pobl ofyn wrtha chi. Ma na lot o fandiau gwych cymraeg newydd, ond tydi nhw'm efo'r gyts i rhoi eu hunan allan yna! Yn lle ma nhw'n aros yn dawel yn disgwl i pobl su 'rioed di clwad amdana nhw ofyn i nhw chwara mewn gigs. Os da chi'n byw yn y gogledd, neu ddim ofn teithio yn bell rownd Cymru yn lle jyst chwara mewn milltir sgwar, ma na ddigon o gigs allan fana i bandiau newydd er mwyn cael sylw.

Os da chi isho Huw Stevens neu enw mawr arall i'r SRG licio chi, da chi angen neud yn siwr ei fod o'n gwbod amdana chi! A gigio mor aml a sy'n bosib ydi'r ffordd gora i neud huna.