SCG yn Ffair CULT Cymru, Galeri: Cerddoriaeth Cynhyrchu

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

SCG yn Ffair CULT Cymru, Galeri: Cerddoriaeth Cynhyrchu

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Gwe 05 Maw 2010 12:20 pm

Yn galw cyfansoddwyr, stiwdios, labeli a chyhoeddwyr....
Cyfarwyddwyr, golygyddion a chynhyrchwyr....

Cerddoriaeth Cynhyrchu:
Beth ydyw a Sut i’w Werthu


Sadwrn 27 Mawrth, 3 - 4.30pm, Galeri, Caernarfon
Mercher 14 Ebrill, 6.30 – 8pm, Yr Eglwys Norwyeg, Bae Caerdydd

Gyda cymaint o raglenni teledu’n cael eu creu yng Nghymru darganfyddwch sut i ymwthio fewn i’r farchnad cerddoriaeth cynhyrchu, y gwahaniaeth rhwng y mathau o gerddoriaeth ar gyfer teledu, pwy sy’n gwneud y dewis a sut gallwch elwa.

• Panel o’r diwydiant clywedol-gweledol yn esbonio’r farchnad ac ateb eich cwestiynau
• Lawnsio Llawlyfr Cerddoriaeth Cynhyrchu anhepgor SCG: Canllawiau i gyfansoddwyr a deiliaid hawlfraint. Bachwch eich copi am ddim
• Rhwydweithiwch gyda diodydd yn dilyn
• AM DDIM

I archebu lle ebostiwch hefin@sefydliadcerddoriaethgymreig.com neu ffoniwch 02920 494110


Am y digwyddiad...
Mae cerddoriaeth cynhyrchu yn cynyddu incwm cyfansoddwyr a chyhoeddwyr. Gydag ymchwil diweddar wedi dangos mai ond 2% o’r gerddoriaeth cynhyrchu sydd ar deledu Cymru sydd gan gyfansoddwyr o Gymru mae’n amlwg nad ydym yn ffynnu yn y maes. Oherwydd hyn bydd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn lawnsio llawlyfr ar gyfer labeli, cyfansoddwyr a stiwdios i ddarparu cerddoriaeth ar gyfer teledu a’r diwydiant aml-blatfform ehangach, megis gemau cyfrifiadur. Bydd panel o’r diwydiant yn trafod y fachnad yn Ffair Cult Cymru / Diwydiannau Creadigol Gogledd Cymru yn Galeri Caernarfon 3yp Sadwrn 27 Mawrth, gydag Aelwyn Williams (cwmni Pawb sy’n cyflwyno’r llawlyfr) a John Hywel Morris (PRS am Gerddoriaeth). Cadeirir gan Rhys Mwyn.
Bydd lawnsiad cyffelyb yng Nghaerdydd ar Ebrill 14 am 6.30yh yn Yr Eglwys Norwyeg, Bae Caerdydd
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron