Cylchgrawn y Selar - rhifyn Ebrill allan nawr http://www.y-selar.com
Henffych gyfaill!
Ah, mae 2010 dros ddeufis oed yn barod, ac mae’n amser i chi gael eich bachau bach blewog ar rifyn newydd sbon danlli o’r Selar ... felly dyma chi! Mae’r amser yma o’r flwyddyn yn un fach rhyfedd i’r sin gerddoriaeth. Mae’n cwympo rhwng dwy stôl rhywsut - cyfnod prysur o gigs a Cds newydd y Nadolig wedi pasio, ac wedyn cwpl o fisoedd i fynd tan fod bwrlwm gwyliau’r haf yn dechrau. Ond na phoener, mae gennym ni hen ddigon o gynnwys cerddorol cyfredol i lenwi rhifyn nes ei fod bron â byrstio. Beryg ma cyhoeddi enillwyr gwobrau glitsi’r Selar ydy un o uchafbwyntiau rhifyn y Gwanwyn - yn enwedig gan eich bod chi’r darllenwyr wedi chwarae rhan allweddol wrth bleidleisio am y rhain eleni. Wedi dweud hynny mae gennym ni lwyth o stwff arall i’ch diddori yn cynnwys
cyfweliad gydag un o brosiectau mwyaf cyffrous y sin ar hyn o bryd a chyflwyniad i ddigwyddiad rheolaidd yn y brif ddinas sy’n dathlu pen-blwydd cyntaf. Yn ogystal â hyn, mae’r cloriau sgleiniog hefyd yn cynnwys yr holl eitemau rheolaidd arferol. Gobeithio y byddwch chi’n joio mas draw, a chofiwch - pan gyll y call, fe gyll ymhell!
Owain Schiavone
Golygydd