Tudalen 1 o 1

mr huw - Tai-th 2010

PostioPostiwyd: Gwe 26 Maw 2010 9:47 am
gan mr huw
Iawn blodyn, sud w ti?
Yn 2010 mi fyddai yn rhyddhau albym newydd, ac i ddathlu hyn mi ydw i a'r band drwg na sgin i yn mynd ar daith. Er mwyn gallu neud y daith yma yn un arbennig da ni angen dy help di. Ia chdi cheif!!!
Ma'r daith yn dibynnu arna chdi a dy fâth.
Da ni isho trefnu taith tai, chwarae yn tŷ pobol. Barbaciw, penblwydd Nain, soundtrack i'ch cinio dydd sul, rwbath i godi calon ar ol angladd neu jyst dod i chwarae i'ch tŷ.
Yr unig beth dan ni'n ofyn amdan ydi rwla i grasho, bo chdi'n gaddo meddwi ni fatha petha gwirion a llenwi'n bolia ni efo beth bynnag sgin ti yn dy ffrij, cwpwrdd moddion neu efo'r petha afiach sy'n tyfy o dan dy wely budur.

Cysyllta efo fi/ni os ti ffansi ni ddod draw i wastio amser yn neud twrw yn dy gwt, gardd, lloft, gwely neu lle bynnach ma dy ddychymig isho ni chwarae.

huw x

Re: mr huw - Tai-th 2010

PostioPostiwyd: Gwe 26 Maw 2010 10:01 am
gan dil
deffo.plis.
d tua 10 yn bore d.sul tra dwin buta brecwast yn gwely yn gweithio.?
oddifri syniad gwych.esgis da i gal parti.

Re: mr huw - Tai-th 2010

PostioPostiwyd: Sad 24 Ebr 2010 12:59 pm
gan mr huw
Diolch i'r sawl sydd wedi gyrru neges trwy'r wefan hon, myspace neu facebook i gael mr huw a'r band draw yn eich ty i neud twrw!
Mae'r daith yn dechrau cymeryd siap, felly cysylltwch efo dyddiadau posib a mi sortia ni rwbath allan. Dim ots lle da chi'n byw, mi dria ni'n gora glas ddod ata chi!!!
Does dim dyddiad pendant ar gyfer dechrau na diwedd i'r daith, so unrhyw adeg rili.
Diolch o galon!