Iawn blodyn, sud w ti?
Yn 2010 mi fyddai yn rhyddhau albym newydd, ac i ddathlu hyn mi ydw i a'r band drwg na sgin i yn mynd ar daith. Er mwyn gallu neud y daith yma yn un arbennig da ni angen dy help di. Ia chdi cheif!!!
Ma'r daith yn dibynnu arna chdi a dy fâth.
Da ni isho trefnu taith tai, chwarae yn tŷ pobol. Barbaciw, penblwydd Nain, soundtrack i'ch cinio dydd sul, rwbath i godi calon ar ol angladd neu jyst dod i chwarae i'ch tŷ.
Yr unig beth dan ni'n ofyn amdan ydi rwla i grasho, bo chdi'n gaddo meddwi ni fatha petha gwirion a llenwi'n bolia ni efo beth bynnag sgin ti yn dy ffrij, cwpwrdd moddion neu efo'r petha afiach sy'n tyfy o dan dy wely budur.
Cysyllta efo fi/ni os ti ffansi ni ddod draw i wastio amser yn neud twrw yn dy gwt, gardd, lloft, gwely neu lle bynnach ma dy ddychymig isho ni chwarae.
huw x