Tudalen 1 o 3

Maes B 2010

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2010 9:51 am
gan maes b
Maes B 2010
Gorffennaf 31 - Awst 7
Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd
Glyn Ebwy

Nos Sadwrn 31/07
CLINIGOL
TOKIN4WA | CYRION
EL PARISA | DJ NIA MEDI
9pm - 2am

Nos Lun 02/08
BRWYDR Y BANDIAU MAES B
9pm - 2am

Nos Fawrth 03/08
BRWYDR Y BANDIAU MAES B
9pm - 2am

Nos Fercher 04/08
DERWYDDON DR GONZO
Y PROMATICS | CREISION HUD
JEN JENIRO | JUST LIKE FRANK
8pm - 2am

Nos Iau 05/08
CATE LE BON
YR ODS | PLANT DUW
WYRLIGIGS | ADRIFT
DJ HUW STEPHENS
8pm - 2am

Nos Wener 06/08
BRYN FÔN A'R BAND
GWIBDAITH HEN FRAN | Y BANDANA
Y BETTI GALWS | ENILLWYR BYB C2
8pm - 2am

Nos Sadwrn 07/08
ELIN FFLUR
MASTERS IN FRANCE | COWBOIS RHOS BOTWNNOG
NOS SADWRN BACH | CRWYDRO
ENILLWYR BYB MAES B | DJ MAGI DODD
8pm - 2am

mwy o fanylion i ddod...

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2010 10:38 am
gan osian
Hm, dwi'm yn cîn o gwbl ar nos Wenar a Sadwrn... Bryn Fon ac Elin Fflur yn hedleinio'r penwsos ola? :?
Ac eithrio Cowbois, ma'r bandia gora i gyd ar y nos ferchar a iau

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2010 12:44 pm
gan ger4llt
Colled Race Horses a Sibrydion am neud gwahaniaeth dwi'n meddwl de.. a gobeithio bydd cost yr wythnos yn lleihau gan bod na ddim headliners ar nos Lun a nos Fawrth - er dwi'n ama'n fawr ddigwyddith hyn o weld y cynnydd ym mhris tocynna dros y blynyddoedd dwetha ma! Diddorol fydd gweld sud fydd y bartneriaeth cymdeithas-maesb yn gweithio fyd!

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2010 1:01 pm
gan osian
Sibrydion ddim yna am resymau dealladwy (prif ganwr yn mynd i fod yn dad), debyg mai nhw fyddai'n hedleinio'r wythnos fel arall?
Rhywun yn gwybod pam na fydd Racehorses yno?
Allai'm meddwl am neb amlwg arall sydd ddim yno, o ran y bandiau sydd, yr anghyfiawnder mwya' ydi jen jeniro, slot gwarthus, ddyla nhw fod yn ail fand ar ryw noson. Licio golwg nos iau fyd.

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2010 5:25 pm
gan Sionyn
Lot o fandiau mawr ddim ar y line-up chwaith. Lle ma Yucatan, Y Niwl neu Mr. Huw? Dwin siwr odd genna nhw gyd rheswm, ond man rhyfedd gweld y line-up hebdda nhw!
O rhan Race Horses ddim yn chwara, dwin siwr nar rheswm ydi tydi nhwm efo set cymraeg digon hir i allu llenwi slot cyfan. Dwim yn gwybod yn sicr ddo!

Dwin meddwl fod yr wythnos i gyd yn eitha da rili. Rhai bandiau fyswn i ddim yn bwriadu gweld, ond man newid i weld mwy o fandiau ifanc yn chwarae yna am y tro cyntaf e.e. Just Like Frank, Adrift a Crwydro. Dwin siwr bydd y bandiau yma yn wych a da nin siwr i weld nhw yna eto.
Cytuno bod rhai bandiau wedi cal slotiau anheg yn yr wythnos e.e. Yr Ods ddim yn headlinio noson? Ond tydi pa slot ma nhwn gal ddim yn rili neud gwahaniaeth i pa mor dda ma nhwn chwara nadi? Peidio cwyno a just mwynhau yr wythnos dwin bwriadu neud de!

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2010 6:56 pm
gan dimdiolch
Diolch sion!
A ie, o ni'n aros i glywed ble odd Mr. Huw! A fi'n meddwl bos Sion yn iawn gyda rheswm Race Horses, achos blwyddyn dwetha' odd e'n edrych fel o nhw'n trio stretcho popeth i lenwi amser. Fel y gan gyda Cate Le Bon odd yn teimlo braidd yn rhy hir a o nhw'n neud lot i lenwi'r amser. O ni hefyd yn disgwyl i Twmffat chwarae!

Ond ni gyd yn gwybod, pwy bynnag sy'n chwarae, fydd e'n wythnos hwyl.

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2010 7:57 pm
gan Sionyn
Ai just tua 3 gig ma Twmffat di gal o gwbl? Onim yn disgwl i nhw chwarae yna o gwbl, ond dwin siwr naw ni weld nhw yn uchel ar y line-up blwyddyn nesa de.
Be sun digwydd efo maes-b yn cyd-weithio efo cymdeithas blwyddyn yma? Ella bod rhai bandiau ddim ar y line-up yma oherwydd ma nhwn chwara i cymdeitha syn lle?
Rhywyn adael i fi wybod!

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Iau 22 Ebr 2010 7:57 am
gan Ramirez
osian a ddywedodd:(prif ganwr yn mynd i fod yn dad)


:ofn: dy dad druan.

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Iau 22 Ebr 2010 2:27 pm
gan osian
Ramirez a ddywedodd:
osian a ddywedodd:(prif ganwr yn mynd i fod yn dad)


:ofn: dy dad druan.

ho ho. ond erbyn meddwl mae sawl ffordd o ddarllen hyn. yn ogystal â dy fochyndra di, mi allai olygu mai dad fydd y prif ganwr.

fysa'n bendant yn esbonio pam nad ydyn nhw'n chwara.

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Iau 22 Ebr 2010 9:41 pm
gan osian
Ta waeth am y leinyp, dwi'n meddwl y gallai'r ffaith bod gigs Cymdeithas a maes b wedi uno fod yn beth da.
Ma'n gadael lle i bobol erill drefnu gigs yn ystod yr wythnos, e.e. dwi'n clywad bod criw Nyth yn meddwl g'neud rhywbath. Lot mwy o sgôp am ddigwyddiadau mwy ymylol. Mi allai hon fod yn steddfod ddifyr iawn.