Tudalen 2 o 3

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ebr 2010 8:58 am
gan Sionyn
Yda ni angen i pobl erill drefnu gigs yn wythnos steddfod? Ma pawb sy'n mynd i gigs Cymraeg yn mynd i maesb neu gigs cymdeithas, a mar bandiau mawr i gyd yn chwarae yn rheina, felly pwy fysa'n mynd i gigs gwahanol?
Dwi'n cytuno fydd on steddfod difyr oherwydd mae mae sba cymdeithas wedi uno, ond does ddim angen i criw arall trefnu mwy o gigs mewn wythnos sy'n barod yn uffernol o brysur efo gigs.

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ebr 2010 9:26 am
gan osian
Sionyn a ddywedodd:Yda ni angen i pobl erill drefnu gigs yn wythnos steddfod? Ma pawb sy'n mynd i gigs Cymraeg yn mynd i maesb neu gigs cymdeithas, a mar bandiau mawr i gyd yn chwarae yn rheina, felly pwy fysa'n mynd i gigs gwahanol?
Dwi'n cytuno fydd on steddfod difyr oherwydd mae mae sba cymdeithas wedi uno, ond does ddim angen i criw arall trefnu mwy o gigs mewn wythnos sy'n barod yn uffernol o brysur efo gigs.

Dyna'r pwynt - fydd yr wythnos ddim mor brysur efo gigs - Maes B a Cymdeithas wedi uno = nifer y gigs wedi eu hanneru.
Felly, ma'n gyfla i bobl sydd ddim eisio mynd i maes b / bandia sy ddim yn maes b drefnu gigs amgen.
O be dwi'n ddallt fydd Cymdeithas yn trenfnu rhywfaint o gigia efo bandia fysa ddim yn cael slot yn Maes B. Cymryd mai artistiaid mwy acwstic fydd rhain, fel Gwyneth Glyn, Gareth Bonello etc?

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Llun 26 Ebr 2010 9:02 pm
gan Sionyn
Gaw ni weld sut mai'n troi allan. Edrych mlaen i'r nos fercher a'r nos iau yn maes-b ddo!!

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Llun 26 Ebr 2010 11:13 pm
gan Hedd Gwynfor
Er bod Cymdeithas yr Iaith yn cydweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i drefnu Maes B yng Nglyn Ebwy eleni, byddwn ni hefyd yn trefnu gigs amgen yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy yn ystod yr wythnos. Gigs bach fydd y rhain, gydag elfen fwy gwleidyddol, yn dal rhyw 150 o bobl y noson. Os chi'n chwarae mewn band, neu'n rhan o act sydd heb gael llwyfan ar MaesB eleni, cysylltwch gyda Lleucu Meinir ar lleucu@dogfen.eu . Bydd amserlen llawn yr wythnos yn cael ei gyhoeddi yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd.

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 10:33 am
gan Nei
Ble ma'r Hip-Hop yn hyn i gyd?!

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 3:56 pm
gan Hedd Gwynfor
Nei a ddywedodd:Ble ma'r Hip-Hop yn hyn i gyd?!


cysylltwch gyda Lleucu Meinir ar lleucu@dogfen.eu :winc:

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Iau 29 Ebr 2010 2:11 pm
gan Angharad Clwyd
Hefyd os oes unrhyw un sydd ishe gweld band yn chware yn gigs y GYmdeithas sydd ddim lawr ar rhestr Maes B rhowch w'bod i Lleucu lleucu@dogfen.eu. Mae'r rhestr gigs y GYmdeithas yn cael ei lunio ar hyn o bryd a gobeithio bydd posib cyhoeddi'r lein yp erbyn Steddfod yr Urdd :D

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2010 10:41 am
gan twat
Dwin gwbod am ffaith bod Y Niwl a mr Huw heb gael cynnig slots call gan y trefnwr. Bechod fod bandia mwya Cymru ddim ar y line up fyd. Mwy na thebyg trio torri corneli mar trefnwr. poor show.

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Maw 04 Mai 2010 1:20 pm
gan tomsyn
twat a ddywedodd:Bechod fod bandia mwya Cymru ddim ar y line up fyd. Mwy na thebyg trio torri corneli mar trefnwr. poor show.

Pwy wyt ti'n ystyried yn fandiau mawr sydd ddim yna felly?
Sibrydion methu chwarae. race horses i weld wedi droppio lot o'i caneuon Cymraeg o'i set ac wedi trio llenwi 30 munud o set llynedd.
Siom. ond dyna ni, nid bai y trefnwr ydy huna.

Re: Maes B 2010

PostioPostiwyd: Iau 06 Mai 2010 8:59 pm
gan Sionyn
Mae'n rhoir cyfle i ddangos y bandiau newydd sy'n dangos potensial i fod yn y bandiau sydd am fod yn fawr yn y dyfodol hefyd. Os fysa'r bandiau mawr e.e. sibrydion neu Mr Huw yn chwarae mae yna llai o le i bandiau sydd angen mwy o sylw i fod yn fawr yn y sin roc gymraeg. Maes B diddorol dwi'n meddwl.