www.sadwrn.com

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

www.sadwrn.com

Postiogan sadwrn » Mer 05 Mai 2010 8:46 pm

Ffynhonnell bwysig i gerddoriaeth Cymraeg - Rhowch groeso penwythnosol i sadwrn.com

Gyda thristwch daeth y siop recordiau ar-lein sebon.co.uk i ben blwyddyn diwethaf - ond bellach does dim angen i chi boeni am sut y cewch afael ar y CD diweddaraf Cymraeg, oherwydd mae Sadwrn wedi prynu hen wefan Sebon ac maent yn barod am fusnes ar http://www.sadwrn.com.

Mae’n allweddol i artistiaid Cymru gael dosbarthwr ar-lein sy’n gwerthu CDs annibynnol ynghyd a chynnyrch gan labeli. Mae’r ffynhonnell o’r math yn cael ei ddefnyddio gan bobl ar draws y byd i ddod o hyd i fandiau ac artistiaid newydd neu i CDs sydd ddim ar gael yn y siopau. Dywedodd perchennog y cwmni, Guto Brychan,
“Mi wnaeth cyfnod Sebon ddangos bod 'na wir angen gwasanaeth fel hyn ar gyfer cerddoriaeth o Gymru, felly pan glywais fod sebon.co.uk yn dod i ben fe benderfynais fod angen parhau efo'r gwasanaeth. Mae'r siop ar-lein yn bwysig am sawl rheswm; i fandiau newydd sy'n ffeindio fe'n anodd cael eu cynnyrch mewn siopau ac i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. O safbwynt y cwsmer mae'n hwyluso'r broses o gael gafael ar gerddoriaeth Cymraeg newydd. Rydyn ni hefyd yn anelu at gael y cynnyrch allan efo post dosbarth cyntaf fel bod y CD yn cyrraedd cyn gynted ag y bo modd.”

Mae yna dros 250 o artistiaid wedi'i rhestri ym mas data’r wefan erbyn hyn a thros 70 o labeli gwahanol. Yn ddiweddar mae sadwrn.com wedi bod yn brysur yn cynyddu’r catalog gyda’r cynnyrch diweddaraf, ychwanegodd Guto,
“Ar hyn o bryd mae 'na dros 400 o CDs ar y wefan. Dwi'n gobeithio dros y mis neu ddwy nesaf i fynd a'r ffigwr dros 500 wrth i mi gysylltu efo mwy o labeli.

“Mae'n bosib rhag-archebu albwm newydd Richard James (We Went Riding) ac albwm hir ddisgwyliedig Jakokoyak (Aerophlot), albwm newydd Gwibdaith Hen Fran (Llechan Wlyb) a nifer o CDs eraill. Dros y mis diwethaf mae yna dros 50 o CDs newydd wedi'i ychwanegu i'r safle felly bydd angen galw draw i gal golwg.”

Y pris sydd wedi'i nodi ar y wefan ydi'r pris sy'n cael ei dalu. Does dim cost cludiant ar y cynnyrch ac mae sadwrn.com wedi ceisio sicrhau bod y pris yr un peth a'r siopau.

Mae croeso i unrhyw un gysylltu â Sadwrn i werthu eu cynnyrch trwy'r wefan. Anfonwch e-bost i post(at)sadwrn.com am wybodaeth bellach.

Cadwch mewn cysylltiad gyda sadwrn.com drwy ymweld a’r safle http://www.sadwrn.com, ymuno a’r grŵp Facebook http://www.facebook.com/sadwrn neu dilynwch y cwmni ar Twitter http://www.twitter.com/sadwrn_com.
Rhithffurf defnyddiwr
sadwrn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Llun 05 Ebr 2010 10:07 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: www.sadwrn.com

Postiogan sadwrn » Mer 05 Mai 2010 8:52 pm

Cylchlythyr Mai

-------------------------------------------

10 Uchaf Ebrill 2010:

1. 9bach - 9bach
2. Maffia Mr Huws - Croniclau'r Bwthyn
3. Gwyneth Glyn - Wyneb Dros Dro
4. Sibrydion - Campfire Classics
5. Race Horses - Goodbye Falkenburg
6. Derwyddon Dr Gonzo - Stonk!
7. Georgia Ruth - Ocean
8. Elin Fflur - Goreuon
9. Bryn Fôn - Goreuon
10. Amlgyfrannog / Various - Amser am un gân arall...

-------------------------------------------

Rhag-archebu:

* Richard James - We Went Riding
* Jakokoyak - Aerophlot

-------------------------------------------

Newydd i'r Safle:

Ebrill 2010:
* Brigyn - Ailgylchu / Buta Efo'r Maffia / Haleliwia / One Way Street
* Calan - Bling
* Clinigol - Melys / Swigod
* Datblygu - Peel Sessions / Can y Mynach Modern
* Eitha Tal Ffranco - Medina
* Elin Fflur - Hafana
* Gai Toms - Rhwng y Llygru a'r Glasi
* Kentucky AFc - Fnord
* Nia Morgan - Nia Morgan
* Pala - Meddwl yn Ol
* Pep Le Pew - Y Da, Y Drwg ac Yr Hyll / Un Tro yn y Gorllewin
* Plant Duw - Y Capel Hyfryd
* Saizmundo - Malwod a Morgrug: Dan Warchae
* Tebot Piws - Twll Din Ifan Saer
* Texas Radio Band - Baccta' Crackin'

Mawrth 2010:
* 9bach - 9bach
* Al Lewis Band - Sawl Ffordd Allan
* Amlgyfrannog / Various - Amser am un Gân Arall...
* Bob - Celwydd Golau Dydd
* Bryn Fôn - Goreuon / The Best of...
* Daniel Lloyd - Tro ar Fyd
* Derwyddon Dr Gonzo - Stonk!
* Elin Fflur - Goreuon / The Best of..
* Endaf Emyn - Deuwedd
* Georgia Ruth - Ocean
* Gwyneth Glyn - Wyneb Dros Dro
* Mr Huw - Hud a Llefrith
* Race Horses - Goodbye Falkenburg
* Race Horses - Man in my Mind
* Sibrydion - Campfire Classics
* Y Promatics - 100 Diwrnod Heb Lliw

-------------------------------------------

Nol Mewn Stoc:

Ebrill 2010:
* Alun Tan Lan - Yr Aflonydd
* Brigyn: 1 / 2/ / 3
* Celt - Petrol / Pwy Ff*** yw Celt
Cerys Matthews - Awyren=Aeroplane
* Cyrion - Cyrion
* Dan Amor - Adlais
* Frizbee - Creuaduriaid Nosol / Hirnos / Lonnonogiaeth / Pendraw'r Byd / Yn Fyw o Maes B
* Gola Ola - Rhwng Oria a Munuda
* Gwyneth Glyn - Tonau
* Jakokoyak - Flatyre
* Meic Stevens - An Evening with... / Gwymon / Sackcloth and Ashes / Rain in The Leaves
* Meinir Gwilym: Smocs, Coffi a Fodca Rhad / Tombola / Sgandal Fain / Dim Ond Clwydda
* Richard James - The Seven Sleepers Den
* Swci Boscawen - Couture C'ching
* Welsh Rare Beat: 1 & 2
* Y Rei - Lawr y Lon Goch

Mawrth 2010:
* Cowbois Rhos Botwnnog & Gwyneth Glyn - Paid a Deud
* David Mysterious - Troubadour of the Unknown
* Jen Jeniro - Geleniaeth
* Radio Luxembourg - Diwrnod gyda'r Anifeiliaid
Rhithffurf defnyddiwr
sadwrn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Llun 05 Ebr 2010 10:07 am
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron