Gildas - Nos Da

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gildas - Nos Da

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Mer 18 Awst 2010 4:45 pm

Sbrigyn Ymborth yn cyflwyno....

Gildas - Nos Da
**Yn y siopau rwan. Ar-lein yn y llefydd arferol.**

Pleser hynod sylweddol Sbrigyn Ymborth yw cyhoeddi albwm gyntaf Gildas, Nos Da. Tan hyn mae Arwel wedi bod yn fwy adnabyddus fel gitarydd ym mand Al Lewis, ond bellach yn ogystal a chyfranu’n abl i grwp Al bydd yn torri ei gwys unigryw ei hun.

Ond beth sydd gan eraill i'w ddweud am Gildas?

Mae'r hanesydd John Davies yn Hanes Cymru yn ei ddisgrifio fel "pregethwr crac" tra bod A.W. Wade-Evans yn ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am osod seiliau hanes Cymru "ar gors o gelwydd" am ganrifoedd maith. Dim ond broliant sydd gan Ainmericus, Uwch-Frenin Iwerddon ato fodd bynnag, gan iddo ofyn i Gildas i ailosod rheolaeth yr Eglwys yn Iwerddon, a hynny a wnaeth.

Pwy bynnag goeliwch, disgwyliwch i’r albwm hynod hwn ailddiffinio’r term `gwrando hamddenol`.


Y Traciau:

1. Dal Fi Fyny
2. Gorwedd Yn Y Blodau
3. Mae 'Na Bobl
4. Ar Ôl Tri
5. Hyfryd Lun
6. Ateb
7. Bruno a'r Blodyn
8. Gardd Y Mynach
9. 'Sgwyddau Gwan
10. Maes Y Bryn
11. Nos Da

Dylunwyd yr albwm gan Eurig Roberts
£9.99

Lawnsir Gildas - Nos Da yn Gwdihw, Caerdydd ar Awst 26 gyda Brigyn a The Gentle Good ....8pm... £5

Bydd Gildas hefyd yn chwarae yng Ngwyl y Gwydir, Llanrwst ar nos wener Medi 10 gyda Meic Stevens, Alun Tan Lan a Tecwyn Ifan
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai