SCG yn 10 oed - dathlu yng Nghaernarfon

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

SCG yn 10 oed - dathlu yng Nghaernarfon

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Llun 27 Medi 2010 12:16 pm


SCG yn 10 – Seminarau a gigs am ddim

Iau 7fed a Gwener 8fed o Hydref 2010 – Galeri,
Caernarfon

Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 10 oed eleni ac yn cynnal deuddydd yn Galeri, Caernarfon ar Hydref y 7fed a’r 8fed i barhau ein dathliadau, gyda seminarau i’r diwydiant, cerddoriaeth fyw yno a mewn lleoliadau ar y maes, a digon o gyfle i rwydweithio.

Felly dewch draw am sesiynau llawn gwybodaeth yn ystod y dydd, ac yna yn y nos mwynhewch berfformiadau byw gan bobl fel Sian James, Alun Tan Lan, Gwilym Morus, Yucatan a Colorama.

Edrychwn ymlaen i’ch gweled! Manylion llawn ar ein gwefan arbennig http://www.scgyn10.com - Cofrestrwch drwy ebost hello@welshmusicfoundation.com


--------------------------------------------------------------------------------


SEMINARAU AM DDIM

Gweithdy Miwsig Byw

Iau Hydref 7 2010

4-5yp

Ystafell C3, Galeri, Caernarfon

I hyrwyddwyr gwyliau, gigs a chyngherddau neu reolwyr lleoliadau’r dyfodol neu bresennol, awr yn darparu gwybodaeth a chynnig syniadau am gynnal gigs, gwyliau a digwyddiadau byw.

Am Ddim
I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda'r teitl 'Gweithdy Miwsig Byw'.


Ymchwil SCG i gerddoriaeth fyw yng Nghymru

Iau Hydref 7 2010

5-6yp

Ystafell C3, Galeri, Caernarfon


Mae SCG yn ymchwilio a hel gwybodaeth am y sin fyw yng Nghymru gyda’r nôd o ddatblgyu strategaeth hir-dymor i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector fyw. Os ydych yn ymwneud a cherddoriaeth fyw yng Nghymru yna ymunwch a ni i ddarganfod mwy a chynnig eich canfyddiadau a’ch barn.

Am ddim

I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Ymchwil Miwsig Byw`.


Cyfleon yng Nghymru a thramor

Gwener Hydref 8 2010

12-12.30yp

Stiwdio 2, Galeri, Caernarfon


Hoffech fynd a’ch cerddoriaeth dramor? Eisiau darganfod mwy am deithiau, gwyliau rhyngwladol ac arddangosfeydd?

Sesiwn wybodaeth lle gallwch ddarganfod mwy am y gwaith mae SCG yn ei wneud i ddarparu cyfleon i arddangos eich hun dramor.

Am ddim

I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Cyfleon yng Nghymru a thramor`.


Corff Casglu Cymreig - Adroddiad Cambrensis

Gwener Hydref 8 2010

1.30 – 3yp

Stiwdio 2, Galeri, Caernarfon


Cyflwyniad a thrafodaeth ar Adroddiad Cambrensis, y cam diweddaraf tuag at sefydlu corff casglu Cymreig. Bydd cynrychiolydd o PRS, y corff casglu Prydeinig, yno i gynnig safbwyntiau fydd o bosib yn wahanol.

Am ddim

I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Adroddiad Cambrensis`.



‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu, gyfaill’ – y cyfryngau yng Nghymru a’r byd.

Gwener Hydref 8 2010

3.15 -4.45yp

Stiwdio 2, Galeri, Caernarfon


Y diweddaraf ym myd y cyfryngau, gydag arbennigwyr o radio, teledu, y we, a’r cylchgronnau yn pwyso a mesur y byd cyfnewidiol ohoni. Pa gyfryngau sy’n bwysig i’ch cerddoriaeth bellach yng Nghymru a phellach?

Am ddim

I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Y Cyfryngau yng Nghymru`.

--------------------------------------------------------------------------------

CERDDORIAETH FYW


Iau Hydref 7 2010 - 7yh

Yucatan

Bar, Galeri, Caernarfon


Perfformiad gan Yucatan, dylai ymdrochi Galeri gyda’u wal arallfydol o swn. Am flas cyn yr achlysur ewch i http://www.myspace.com/yucatanambyth


Gwener Hydref 7 2010

Yn y nos mewn dau leoliad ar y Maes:

Colorama
Alun Tan Lan
9yh - Morgan Lloyd, Caernarfon


Sian James
Gwilym Morus
10yh - Y Castell, Caernarfon


Y gigs oll am ddim
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru

Re: SCG yn 10 oed - dathlu yng Nghaernarfon

Postiogan SefydliadCerddoriaethGym » Mer 06 Hyd 2010 9:16 am

Y Panelwyr i chi ar gyfer...

Corff Casglu Cymreig - Adroddiad Cambrensis

Deian ap Rhisiart (Cambrensis)
John Hywel Morris (PRS For Music)
Emyr Williams (Ankst)

Cadeirir gan Dafydd Roberts (Y Gynghrair)

Fydd y Chwyldro ddim ar y Teledu, Gyfaill

Dyl Mei (Dyl Mei)
Iwan Standley (Arbennigwr y We, Rondo)
Barry Thomas (Golwg)
Adam Walton (Radio Wales)

Cadeirir gan Gareth Iwan (Cynhyrchydd Radio Cymru)
SefydliadCerddoriaethGym
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Maw 03 Gor 2007 12:50 pm
Lleoliad: Cymru


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron