SCG yn 10 – Seminarau a gigs am ddim
Iau 7fed a Gwener 8fed o Hydref 2010 – Galeri, Caernarfon
Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 10 oed eleni ac yn cynnal deuddydd yn Galeri, Caernarfon ar Hydref y 7fed a’r 8fed i barhau ein dathliadau, gyda seminarau i’r diwydiant, cerddoriaeth fyw yno a mewn lleoliadau ar y maes, a digon o gyfle i rwydweithio.
Felly dewch draw am sesiynau llawn gwybodaeth yn ystod y dydd, ac yna yn y nos mwynhewch berfformiadau byw gan bobl fel Sian James, Alun Tan Lan, Gwilym Morus, Yucatan a Colorama.
Edrychwn ymlaen i’ch gweled! Manylion llawn ar ein gwefan arbennig
http://www.scgyn10.com - Cofrestrwch drwy ebost
hello@welshmusicfoundation.com --------------------------------------------------------------------------------
SEMINARAU AM DDIM
Gweithdy Miwsig Byw
Iau Hydref 7 2010
4-5yp
Ystafell C3, Galeri, Caernarfon
I hyrwyddwyr gwyliau, gigs a chyngherddau neu reolwyr lleoliadau’r dyfodol neu bresennol, awr yn darparu gwybodaeth a chynnig syniadau am gynnal gigs, gwyliau a digwyddiadau byw.
Am Ddim
I gofrestru gyrrwch ebost at
hello@welshmusicfoundation.com gyda'r teitl 'Gweithdy Miwsig Byw'.
Ymchwil SCG i gerddoriaeth fyw yng Nghymru
Iau Hydref 7 2010
5-6yp
Ystafell C3, Galeri, Caernarfon
Mae SCG yn ymchwilio a hel gwybodaeth am y sin fyw yng Nghymru gyda’r nôd o ddatblgyu strategaeth hir-dymor i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector fyw. Os ydych yn ymwneud a cherddoriaeth fyw yng Nghymru yna ymunwch a ni i ddarganfod mwy a chynnig eich canfyddiadau a’ch barn.
Am ddim
I gofrestru gyrrwch ebost at
hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Ymchwil Miwsig Byw`.
Cyfleon yng Nghymru a thramor
Gwener Hydref 8 2010
12-12.30yp
Stiwdio 2, Galeri, CaernarfonHoffech fynd a’ch cerddoriaeth dramor? Eisiau darganfod mwy am deithiau, gwyliau rhyngwladol ac arddangosfeydd?
Sesiwn wybodaeth lle gallwch ddarganfod mwy am y gwaith mae SCG yn ei wneud i ddarparu cyfleon i arddangos eich hun dramor.
Am ddim
I gofrestru gyrrwch ebost at
hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Cyfleon yng Nghymru a thramor`.
Corff Casglu Cymreig - Adroddiad Cambrensis
Gwener Hydref 8 2010
1.30 – 3yp
Stiwdio 2, Galeri, CaernarfonCyflwyniad a thrafodaeth ar Adroddiad Cambrensis, y cam diweddaraf tuag at sefydlu corff casglu Cymreig. Bydd cynrychiolydd o PRS, y corff casglu Prydeinig, yno i gynnig safbwyntiau fydd o bosib yn wahanol.
Am ddim
I gofrestru gyrrwch ebost at
hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Adroddiad Cambrensis`.
‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu, gyfaill’ – y cyfryngau yng Nghymru a’r byd.
Gwener Hydref 8 2010
3.15 -4.45yp
Stiwdio 2, Galeri, CaernarfonY diweddaraf ym myd y cyfryngau, gydag arbennigwyr o radio, teledu, y we, a’r cylchgronnau yn pwyso a mesur y byd cyfnewidiol ohoni. Pa gyfryngau sy’n bwysig i’ch cerddoriaeth bellach yng Nghymru a phellach?
Am ddim
I gofrestru gyrrwch ebost at
hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Y Cyfryngau yng Nghymru`.
--------------------------------------------------------------------------------
CERDDORIAETH FYW
Iau Hydref 7 2010 - 7yh
Yucatan
Bar, Galeri, Caernarfon Perfformiad gan Yucatan, dylai ymdrochi Galeri gyda’u wal arallfydol o swn. Am flas cyn yr achlysur ewch i
http://www.myspace.com/yucatanambythGwener Hydref 7 2010Yn y nos mewn dau leoliad ar y Maes:
Colorama
Alun Tan Lan
9yh - Morgan Lloyd, Caernarfon
Sian James
Gwilym Morus
10yh - Y Castell, CaernarfonY gigs oll am ddim