Wel, ma'r albym newydd bron yn barod a ma'r promos i gyd di dod yn nol ac yn barod i gael eu postio allan i sgymbags y cyfryngau.
Gyda gobaith (cryf drost ben) bydd yr albym allan dechra mis Rhagfyr ac yna i'ch swyno chi trwy dyddiau tywyll y nadolig.
Ond i aros am hyn, ma na anrheg bach fyny ar myspace mr huw i chdi!
Mi nes i recordio un o'r caneuon bydd ar yr albym newydd ar gyfer sioe Gwobrau RAP Radio Cymru. Mae fersiwn byw o 'Creaduriaid byw' fyny ar http://www.myspace.com/ymrhuw
i chdi gal clwad.
Bydd mwy o fanylion am yr albym newydd yn fuan.
Yr hynod ddiolchgar Huw!!! x