Dw i wrthi ar hyn o bryd rhoi fy nghasgliad cerddoriaeth mewn rhyw fath o drefn, ac yn defnyddio cronfa-ddata discogs.com i gadw trac o beth sy gyda fi, a beth sy ddim.
Y drefn ar discogs yw bod hawl gyda unrhywun i ychwanegu manylion at y gronfa-ddata, fatha Wicipedia, ac mae un tudalen i bob fersiwn o bob record sy wedi'i ryddhau erioed, mewn theori.
Yn anffodus, does dim llawer o recordiau Cymraeg ar y gronfa-ddata ar hyn o bryd, felly mae job o waith 'da fi o'm blaen greu cofnod i lenwi'r bylchau. Beth hoffwn i wneud fan hyn yw postio cwestiynau am fanylion bach, yn y gobaith bod maeswyr gwybodus yn gallu helpu cael pethau'n iawn. Bydd un neges yma i bob cofnod dw i'n ychwanegu, gyda dolen i'r tudalen ar discogs, ac unrhyw cwestiynau sy wedi codi yn fy meddwl bach i. Bydd rhai o'r cwestiynau yn swnio'n dwp i rai ohonoch chi, mae'n siwr, yn enwedig am stwff o'r 70au sy'n gyfarwydd iawn i Gymry Cymraeg ond ddim i fachan ail-iaith fel fi.
Os oes pobl gyda cyfrif discogs yn barod, bydd hynny yn well byth - cewch chi olygu fy ngwaith yn uniongyrchol os welwch chi gamgymeriadau.
Iawnski, digon o gyflwyniad, wna i ddechrau gan bostio lincs i'r stwff dw i wedi ychwanegu eisioes.