gan Ramirez » Llun 06 Rhag 2010 10:36 am
Adolygiad o'r albym gan Casia Wiliam yng nghylchgrawn Y Selar:
Cowbois Rhos Botwnnog - Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn
Mae’r gaeaf ar riniog y drws ac mae’n amser gwisgo côt a sgarff, ond ar Ragfyr yr 11eg mi fydd hi’n amser i chi roi’ch gwydrau i lawr a chloi eich drysau. Yna, tarwch Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn ar eich chwaraewr CDs a gwrandewch – achos wir-yr, mae albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog yn werth chweil ac mae’n haeddu gwrandawiad iawn.
I mi mae gwrando ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn fel cael andros o sgwrs hir bersonol efo hen ffrind. Hanesion o hapusrwydd, unigrwydd, ysfa, cariad a cholli cariad. Gyda thri aelod newydd yn cyfrannu ar yr albwm - Euron “Jos” Jones, Llyr “Tonto” Pari” a Branwen “Sbrings” - mae’r naws gerddorol yn gyfoethog a chain, a geiriau’r caneuon - trŵ tŵ fform gan y ‘fenga o’r cowbois, yn goeth a chofiadwy.
Cadwch glust allan am eu fersiwn nhw o ‘Gan fy mod i’ gan Nia Morgan, sy’n drwm dan deimlad ac yn codi croen gŵydd bron a bod, tra bod ‘Y Ffenest’ wedi ei serio ar fy nghof erbyn hyn – ond mae dewis y caneuon gorau ar yr albwm fel dewis siocled o focs Milk Tray – does dim dewis anghywir, maen nhw’i gyd yn fendigedig.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.