Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ac ati

Cymedrolwyr: Mihangel Macintosh, Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Trafod y sîn, adolygiadau gigs, CDs newydd ayb. Mae seiat arbennig ar gyfer hysbysebu gigs. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Gwe 15 Hyd 2010 3:50 pm

Dydd da bawb.

Pleser ydi cael d'eud y bydd albym newydd Cowbois Rhos Botwnnog yn cael ei rhyddhau ar Ragfyr 11.
Os y gwrandewch chi'n astud ella clywch chi gan neu ddwy ar Radio Cymru yn eithaf buan.

Handi iawn, jysd cyn 'Dolig fel'na. Dewch i gyd -ganu - Cyfalafwyr rhonc ydym ni bob un...
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan EsAi » Gwe 15 Hyd 2010 5:24 pm

Aidial
Rhithffurf defnyddiwr
EsAi
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Llun 08 Maw 2004 11:43 am

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Iau 28 Hyd 2010 8:23 am

EsAi a ddywedodd:Aidial


Aidial yn wir, EsAi!

Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn fydd teitl yr albym, a bydd y lawnsiad yn cychwyn yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar Ragfyr 11, yng nghwmni'r Cowbois, Y Niwl ac ambell un arall.

Manylion y gig yma (clic!)
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan Sbrigyn Ymborth » Sul 07 Tach 2010 3:55 pm

Mi fydd Lisa Gwilym yn chwarae trac oddi ar yr albym bob nos rhwng nos fory (8/11/10) a nos wener (12/11/10) ar ei sioe newydd ar C2 rhwng 8-10pm!

Dyma'r cyfle cyntaf i glywed y traciau newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sbrigyn Ymborth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Iau 18 Mai 2006 11:53 pm

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan Ramirez » Gwe 12 Tach 2010 10:59 am

Taster bach - dwy drac oddi yr albym i'w clywed *YMA!*

Mwynhewch!
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan Ramirez » Llun 06 Rhag 2010 10:36 am

Adolygiad o'r albym gan Casia Wiliam yng nghylchgrawn Y Selar:

Cowbois Rhos Botwnnog - Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn
Mae’r gaeaf ar riniog y drws ac mae’n amser gwisgo côt a sgarff, ond ar Ragfyr yr 11eg mi fydd hi’n amser i chi roi’ch gwydrau i lawr a chloi eich drysau. Yna, tarwch Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn ar eich chwaraewr CDs a gwrandewch – achos wir-yr, mae albwm newydd Cowbois Rhos Botwnnog yn werth chweil ac mae’n haeddu gwrandawiad iawn.

I mi mae gwrando ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn fel cael andros o sgwrs hir bersonol efo hen ffrind. Hanesion o hapusrwydd, unigrwydd, ysfa, cariad a cholli cariad. Gyda thri aelod newydd yn cyfrannu ar yr albwm - Euron “Jos” Jones, Llyr “Tonto” Pari” a Branwen “Sbrings” - mae’r naws gerddorol yn gyfoethog a chain, a geiriau’r caneuon - trŵ tŵ fform gan y ‘fenga o’r cowbois, yn goeth a chofiadwy.

Cadwch glust allan am eu fersiwn nhw o ‘Gan fy mod i’ gan Nia Morgan, sy’n drwm dan deimlad ac yn codi croen gŵydd bron a bod, tra bod ‘Y Ffenest’ wedi ei serio ar fy nghof erbyn hyn – ond mae dewis y caneuon gorau ar yr albwm fel dewis siocled o focs Milk Tray – does dim dewis anghywir, maen nhw’i gyd yn fendigedig.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan Ramirez » Maw 07 Rhag 2010 9:41 am

Rhif 1 yn yr Unig Siart Sy'n Cyfri wythnos yma hogia bach. Cyn i'r albym gael ei rhyddhau hyd yn oed. Digri.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan dil » Maw 07 Rhag 2010 2:51 pm

pob lwc gyda'r lawnsiad.edrych mlaen i glywed yr albym newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan anffodus » Mer 08 Rhag 2010 11:27 pm

Fydd yr albym yn y siopa ddydd sadwrn ta dim ond ar ôl nos sadwrn fydd hi ar ga'l?
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Postiogan Ramirez » Iau 09 Rhag 2010 11:06 am

anffodus a ddywedodd:Fydd yr albym yn y siopa ddydd sadwrn ta dim ond ar ôl nos sadwrn fydd hi ar ga'l?


Mi fydd hi yn y siop dydd sadwrn. Tshians da bod hi yno rwan os ti'n gofyn yn glen :winc:
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron