gan Ramirez » Iau 23 Rhag 2010 4:42 pm
Ac, yn ddifyr tu hwnt, "adolygiad amddifynnol" yn dilyn Pethe Hwyrach neithiwr gan Guto Dafydd:
Adolygiad-amddiffyniad o ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’
23/12/2010
.Mi gafodd albym ddiweddara Cowbois Rhos Botwnnog ei llarpio gan banel adolygu Pethe neithiwr. Doedd y panel ddim yn hoff o’r genre beth bynnag, a’r prif gyhuddiad yn erbyn yr albym oedd ei bod hi’n rhy bruddglwyfus. Pawb at y peth y bo, ond dwi’n credu ei bod hi’n gofnod gwych iawn o deimladau llanc ifanc – ac onid ydi hi’n bwysicach bod yn onest na chodi calon pobl? At hynny, yr albym ydi’r albym – fedr neb anwybyddu sut mae hi’n gwneud iddo deimlo, ond siawns na ddylid pwyso a mesur safon hefyd?
Mi ddywedodd Keith Morris fod y record yn enghraifft o ‘Welsh miserablism’. Os ydi hi’n fisrabl, wel mae yma fiserablism byd-eang a miserablism y canrifoedd. Mae’r Cowbois yn fand pwysig am eu bod nhw’n distyllu dylanwadau rhyngwladol a Chymreig i greu rhywbeth geirwir a pherthnasol. Yn hynny o beth, maen nhw’n etifeddion i Bob Delyn a’r Ebillion.
Mi alwyd yr albym yn ganu gwlad yn ei hanfod, ac mae canu gwlad go iawn yn beth prin eithriadol yng Nghymru: mae angen i rywun roi dôs da i ni o’r genre yma er mwyn dangos i bobl nad pethau fel John ac Alun, Iona ac Andy na Wil Tân ydi canu gwlad. Dwi ddim yn meddwl bod y disgrifiad yn deg, serch hynny. Dwi ddim mor hyddysg â hynny yn fy miwsig, ond mae yma ddylanwad mwy o lawer na chanu gwlad yn unig: mae yma bopeth o roc America i ganu gwerin Cymraeg. Mae gitarwaith roc gorchestol ar nifer o’r traciau, ond ceir digon o amrywiaeth hefyd – y piano tawel a’r pedal stîl ar Malu’r ffenestri, er enghraifft, a’r crescendo llyfn, graddol, atmosfferig ar Gan fy mod i.
Dwn i ddim beth i’w wneud o’r cyhuddiad fod llais Iwan yn undonog drwy’r CD. Dwi’n clywed digon o amrywiaeth – o floeddio hefi-metalaidd ar Celwydd golau ydi cariad, i udo eneidlawn ar Y ffenast, i ganu mwy arbrofol ar Malu’r Ffenestri.
Yn y geiriau y mae gorchest fwya’r albym, dwi’n meddwl. Maen nhw’n hybrid o ddiwylliannau gwahanol, fel y mae i O! Nansi yn dangos. Dyna’r enw Americanaidd (ta hen-ffasiwn Gymreig ydi o?) a’r cais syml fyddai’n ffitio mewn cân roc: ’O Nansi, tyrd i ngweld i’ yn cael ei gynnal gan fotiff Cymraeg: ‘tyrd i guro ar y gwydr glas’. Mae’r motiff yma’n rhedeg drwy nifer o’r caneuon, ac mae clyfrwch i’w weld yn Malu ffenestri: yn y traddodiad, dim ond taro cwpwl o gerrig mân yn erbyn ffenest ei gariad sy’n rhaid i’r carwr. Aiff Iwan â’r syniad hwnnw i’w ben – beth sy’n digwydd os nad ydi’r cariad yn dod i’r drws? Mae’n taflu cymaint o gerrig nes bod y ffenestri’n deilchion.
Ond peidied neb â meddwl bod y geiriau’n dibynnu’n llwyr ar ddylanwadau: gall Iwan greu sefyllfaoedd a diarhebion mor gredadwy â thelynegol â’r un o’r hen benillion. Mi fedr o greu cymeriad crwn, hyfryd sy’n torri calon rhywun ar ddim: ‘Mae hi’n gwisgo yn ei chotwm gora, ei llgada a’i gwefusa hi’n goch’. Dyna gynildeb na fyddai allan o’i le yn y Mabinogi. A dyna greu diarhebion wedyn: ‘Celwydd gola ydi cariad: gair bach gwyn bob hyn a hyn i’n cadw ni yn onast’.
Mi ddywedais fod angst a galar y canrifoedd i’w glywed ar yr albym, ac at y diben hwnnw mae’r record yn cynnwys fersiwn ardderchog o’r gân werin Ffarwel i Langyfelach lon. Mae’n fersiwn epig, wyth munud a hanner o hyd.
Roedd panel Pethe yn reit ddiamynedd efo’r rhagarweiniad; i mi, mae o’n wefreiddiol, ac yn atgoffa dyn o Pink Floyd neu Stairway to heaven. Mae yna gwpwl o eiliadau sy’n mynd â gwynt dyn yn y gân: y pennill sy’n cychwyn tua 5 35, ‘Cymera gyngor, fy merch fach lon: pan af inna dros y don…’. Mae’r cyfeiliant yn stopio, llais Iwan yn ddigyfeiliant am ychydig cyn i’r band ailgychwyn â nodau camu cryf gan y gitâr fas. Mae’n amheuthun.
Mae yna nifer o gyffyrddiadau yn y gân sydd fel petaent yn cyflawni delweddau sydd yn rhedeg drwy’r albym: y sôn am fynd dros y môr, a’r cariad a gollir. Hen dric Plethyn sydd yma: roedden nhw’n cyfosod geiriau Myrddin ap Dafydd am ryfel cyfoes (‘…o’u seddau’n Whitehall yn gyrru i ryfel rai fyth na ddaw’n ôl’) efo cân werin fel Cysga di, efo’r addewid gwag ‘Pan ddaw dy dad yn ôl o Ffrainc’. Yr un ydi’r effaith yn fan hyn: daw geiriau’r gân werin i sôn am brofiadau heddiw, ac uniaethir geiriau Iwan â phrofiad bachgen ifanc ddwy, dair canrif yn ôl.
Mae hyn yn amlygu gwendid mwyaf y gân, serch hynny, sef na chynhwyswyd cân orau’r Cowbois ac un o’r caneuon gwrth-ryfel gorau erioed yn Gymraeg: Cân y capten llongau. Mae honno’n gân epig, apocalyptaidd, sy’n cyfuno gweledigaeth ffantasi o ddiwedd y byd efo protest oesol yn erbyn gwastraffu bywydau hogiau ifanc mewn rhyfel:
"Yn llancia ifanc, hardd a hy
awn drwy y bwlch ym mhen draw’r byd."
Duw a ŵyr pa ffolineb a barodd hepgor hon: mi fyddai wedi gwneud cymar perffaith i Ffarwel i Langyfelach.
Ond at ei gilydd, mae’n albym ardderchog. Bychan iawn ydi’r cyhuddiadau o brudd-der ac undonedd yn ymyl yr argraff lawn mae’r albym yn ei chreu.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.