gan Ramirez » Gwe 04 Maw 2011 10:59 pm
Adolygiad gan Osian Gruffydd gogyfer 'Gair Rhydd' a 'Llanw Llyn':
I’r rhai fydd yn disgwyl rhywbeth tebyg i albym gyntaf Cowbois Rhos Botwnnog – Dawns y Trychfilod – mi fydd hon yn sioc. Mae’r Cowbois wedi aeddfedu yn y dair blynedd ddiwethaf, ac mae hynny i’w glywed yn y geiriau a’r gerddoriaeth – efo gitâr, lleisiau ychwanegol, a pedal steel yn arbennig, yn ychwanegu ar y swn. Nid caneuon am bryfed a moch sydd yma y tro hwn – mae’r geiriau sy’n ymddangos ar glawr y CD yn arwydd digon clir o hynny – ond yn hytrach naw o ganeuon dyfn a dwys, yn drwm dan ddylanwad canu gwlad, gwerin ac Americana. Mae’r albym yn cychwyn ar nodyn digalon iawn – Y Ffenast: cerddoriaeth syml a geiriau pwerus a thorcalonnus yn adleisio Leonard Cohen a’r Felice Brothers. Mae hon yn gosod y naws ar gyfer y rhan fwyaf o’r caneuon eraill. Yn wir, mae hi’n dipyn o ryddhad cyrraedd rhai o’r caneuon ysgafnach – Dyddia Du Dyddia Gwyn, O! Nansi ac, i raddau, Celwydd Gola’ Ydi Cariad.
Er y byddai rhai yn dadlau fod dylanwad canu gwlad canol y ffordd yn rhy gryf ar y rhain ( O! Nansi yn arbennig), dwi’n teimlo fod y caneuon yma yn hanfodol i’r albym. Hebddynt, mi allai’r caneuon trwm orlethu’r gwrandawr, a thynnu sylw oddi ar safon y casgliad.
Fodd bynnag, dydw i ddim yn trio awgrymu fod tristwch yr albym yn wendid – i’r gwrthwyneb. Fel sydd yn wir mewn gymaint o achosion, y caneuon tristaf a dwysaf ydi’r rhai gorau. Mae ‘Gan fy Mod i’ (fersiwn o gân Nia Morgan) yn un o ganeuon y flwyddyn – yn dechrau’n dawel a myfyriol cyn adeiladu i uchafbwynt trydanol. Cân arall sydd ddim yn wreiddiol ydi’r fersiwn o‘Ffarwel i Langyfelach Lon’, ac am fersiwn ydi hi. Wyth munud o drac fyddai ddim yn swnio allan o le ar albym Neil Young o’r 70au. Hen gân, ond mae’r Cowbois yn llwyddo i wneud iddi swnio’n gwbl berthnasol heddiw.
Wrth i gitârs honno gilio, mae’r albym yn gorffen ar nodyn mymryn yn fwy hamddenol, ond yr un mor ingol – ‘Llgada’ Gleision’.
Os ydach chi’n disgwyl cerddoriaeth i ddawnsio iddi, yna efallai na fydd hon at eich dant i ddechrau (ewch i weld Cowbois yn chwarae’n fyw yn lle!), ond rhowch gyfle iddi – gwrandwch arni eilwaith, a thrydydd gwaith, ac mi welwch bod hon yn gampwaith sydd ymysg y pethau gorau i gael ei ryddhau eleni.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.